Mae penderfyniad cwmni dur Tata i fwrw ymlaen â’u cynlluniau i drawsnewid y safle ym Mhort Talbot yn “ergyd gas” i filoedd o weithwyr a’u teuluoedd, yn ôl Jeremy Miles.
Yn dilyn ymghynghoriad ffurfiol 45 diwrnod gydag undebau, cyhoeddodd Tata Steel ddydd Iau (Ebrill 25) y byddan nhw’n bwrw ymlaen â’u cynlluniau ar gyfer Port Talbot.
Mae cynlluniau Tata Steel yn cynnwys cau’r ffwrneisi chwyth sy’n cynhyrchu haearn tawdd o fwyn ym Mhort Talbot eleni, a gosod ffwrnais arc drydan sy’n toddi dur sgrap.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn saith mis o drafod eu cynigion gyda’r undebau llafur.
‘Ergyd gas’
Wrth drafod y mater yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 30), dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd yr Economi, Ynni a’r Gymraeg, ei fod yn siomedig â’r penderfyniad, cyn mynd yn ei flaen i rannu cynlluniau Tata ar gyfer y misoedd nesaf.
“Dyma ergyd gas i filoedd o weithwyr a’u teuluoedd ac i gymunedau cyfan yng Nghymru, yn enwedig ym Mhort Talbot,” meddai.
“Rydyn ni’n falch o’n sector dur yng Nghymru.
“Mae’n ased strategol i’r Deyrnas Unedig, ac mae ganddo’r gweithlu medrus i allu darparu’r capasiti cynaliadwy i gynhyrchu dur sydd ei angen ar economïau Cymru a’r Deyrnas Unedig – y capasiti mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dadlau’n gyson drosto.
“Ers cyhoeddi cynnig Tata y llynedd, mae gweinidogion wedi mynegi eu pryderon bod y newid yn digwydd yn rhy gyflym.
“Gallai’r trafod rhwng y cwmni a’r undebau fod wedi sicrhau cyfnod pontio hirach a thecach, fyddai wedi golygu colli llai o swyddi.
“Gyda’r ymgynghori hwnnw bellach yn dod i ben, bydd Tata nawr yn bwrw ymlaen â’u cynllun i gau Ffwrnais Chwyth rhif 5 ym mis Mehefin, a Ffwrnais Chwyth rhif 4 a’r asedau trwm sy’n weddill erbyn diwedd mis Medi.
“Fel rhan o’r cynllun gwerth £1.25bn, er mwyn gallu diwallu anghenion eu cwsmeriaid yn ystod y cyfnod pontio o dair blynedd hyd at ddechrau gwneud dur o’r ffwrnais Drydan, ac i allu parhau i gynhyrchu ar eu safleoedd eraill, bydd Tata yn dibynnu ar fewnforion.”
Galw am ‘osgoi diswyddiadau gorfodol’
Mae Tata eisoes wedi cyhoeddi bod disgwyl i hyd at 2,800 o swyddi gael eu colli fel rhan o’u cynllun pontio.
Bydd tua 2,500 o’r rheini’n cael eu colli bob yn dipyn dros y deunaw mis nesaf, ac mae disgwyl colli’r rhan gyntaf ym mis Gorffennaf.
Mae’r cwmni yn rhagweld colli 300 o swyddi eraill ymhen dwy neu dair blynedd ar safle Llanwern.
Dywed Jeremy Miles fod hyn yn “newyddion trist iawn i Gymru”, a bod rhaid i’r cwmni ymroi i wneud popeth o fewn eu gallu i osgoi diswyddiadau gorfodol.
“Mae’n golygu bod cyfnod anodd iawn yn wynebu’r gweithwyr a’u teuluoedd, ac aelodau’r cymunedau lleol a’r cadwyni cyflenwi,” meddai.
“Mae’n hanfodol bod y cwmni nawr yn gwneud popeth yn ei allu i osgoi diswyddiadau gorfodol yn ei weithlu ffyddlon a’i for yn gweithio gyda’r Bwrdd Pontio i sicrhau bod y gweithwyr yn cael yr help a’r cyngor priodol i ddysgu sgiliau newydd a chael hyd i waith.
“Mae angen i Tata gyhoeddi manylion ac amserlen yr effeithiau ar ei weithlu a’i gadwyn gyflenwi ar fyrder er mwyn i Lywodraeth Cymru a’n partneriaid allu rhoi’r cymorth gorau posibl iddyn nhw.
“Bydd hyn yn cynnwys rhoi help arbennig gyda sgiliau a hyfforddiant, er mwyn iddyn nhw allu cynllunio dyfodol cadarnhaol.”
‘Rhaid i ni weithredu nawr er budd cymuned Port Talbot’
Mae’r undebau dur Community, GMB ac Uno’r Undeb wedi gofyn, neu wrthi’n gofyn i’w haelodau am eu barn am weithredu’n ddiwydiannol.
Mae aelodau Uno’r Undeb eisoes wedi pleidleisio o blaid gweithredu’n ddiwydiannol.
Mae pleidleisiau Community a’r GMB yn cau ar Fai 9.
Wrth ymateb i’r pleidleisiau hyn ar weithredu diwydiannol, mae Tata wedi gosod amodau ynghlwm wrth elfennau o’r pecyn diswyddo gwirfoddol maen nhw’n bwriadu ei gynnig.
Dywed Tata Steel y byddan nhw’n atal pecyn diswyddo gwell os yw gweithwyr yn mynd ar streic, yn ôl Aelod o’r Senedd.
Ysgrifennodd y cwmni at y staff ar ôl i aelodau undeb Unite bleidleisio o blaid gweithredu ddiwylliannol dros dorri 3,000 o swyddi.
“Yn ein barn ni, dylai Tata gynnig y pecyn gorau posib i’w gweithlu,” meddai Jeremy Miles.
“Mae dull Tata o ddelio â’r argyfwng hwn ond wedi ychwanegu tanwydd pellach at y tân, a bydd eu bygythiad i dynnu pecynnau diswyddo yn ôl yn gwneud dim i dawelu nerfau’r gweithwyr hynny sydd eisoes mewn perygl o golli eu bywoliaeth,” meddai Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
“Ni ellir taflu ein gweithwyr o Gymru o’r neilltu a’u trin fel difrod cyfochrog, maen nhw’n bobol go iawn sy’n delio ag esgeulustod y llywodraeth.
“Bydd newid arfaethedig Tata yn arwain at drychineb economaidd i filoedd o weithwyr, eu teuluoedd, a chymuned gyfagos Port Talbot.
“Tra hefyd yn cyfrannu tuag at argyfwng iechyd meddwl a allai arwain at gynnydd difrifol mewn risgiau o hunanladdiad.
“Nid waledi pobol yn unig sydd mewn perygl yma ond eu bywydau hefyd.
“Mae’n rhaid i ni gael cynllun cynhwysfawr, wedi’i adeiladu mewn cydweithrediad â’r gweithwyr, sydd nid yn unig yn darparu ailhyfforddi ond sicrwydd ariannol ac urddas hefyd.
“Ni allwn fforddio rhoi’r allweddi i Tata ac aros am y ddamwain sydd ar ddod, rhaid i ni weithredu nawr er budd cymuned Port Talbot.”