Roedd hi’n noson fach ddigon oer, ond sych, diolch byth, ddydd Gwener (Tachwedd 18). Ar ôl siwrne anghyffyrddus ar drên gorlawn lawr i Gaerdydd, ffeindiais fy ngwesty ac yna dechreuais ar fy siwrne i ‘Oriel g39’.
Ar fy ffordd ene, ddes ar draws bwyty Hadramowt, lle cefais botes ac yna cyw iâr a reis blasus; wnes i hefyd ffeindio siop gerllaw oedd yn gwerthu pob math o bethau blasus a phrynais baklava a phwdin reis hefo cnau arni fel têcawê.
Roedd y rhan yma o Gaerdydd yn newydd i mi ond rhaid dweud, roedd hi’n fyrlymus ac yn wledd i’r synhwyrau. Dilynais y SatNav ar fy ffôn symudol yn hyderus ddigon wrth iddi fy nhywys trwy’r strydoedd anghyfarwydd tuag at fy nghyrchfan. Yna, troais y gornel a ffeindiais fy hun ar stryd o dai, lle roedd hi’n dywyll ac yn ddistaw o gymharu â’r stryd fawr.
Meddyliais efallai fy mod wedi dod y ffordd anghywir, ond yna, gyda help gyrrwr tacsi clên oedd yn digwydd pasio heibio, ddes o hyd i Oriel g39. I’r sawl ohonoch sydd am deithio ene yn ystod y mis nesaf yma i weld yr arddangosfa ‘Aildanio’, dyma heads up felly ei bod ychydig bach yn tricky i’w ffeindio – ond medraf hefyd ddweud, mae hi’n gwbl werth o!
O’r tu allan, mae’n edrych fel adeilad haearn gwrymiog diymhongar; ond tu fewn mae hi fel Tardis – gofod artistig hyfryd, yn llawn trysorau celfyddydol.
Cystadleuaeth ‘Aildanio’ Celfyddydau Anableddau Cymru (CAC)
Ar y noson dan sylw, roedd pawb yn ymgasglu yn Oriel g39 i fynychu lansiad yr arddangosfa ‘Aildanio’. Cynhaliwyd cystadlaethau celf a geiriau creadigol gan Gelfyddydau Anabledd Cymru (CAC/ Disability Arts Cymru – DAC) yn 2022, ar y thema ‘Aildanio’, i ysbrydoli artistiaid a llenorion / beirdd (sy’n byw hefo anableddau) i greu, gan feddwl am y broses o aildanio ar ôl rhyw fath o saib – gyda’r pandemig diweddar yn cynnig deunydd cyfoethog.
Wrth gyrraedd, synnais a fues i wrth fy modd wrth weld fy enw wedi ei baentio ar y wal, ynghyd â’r 26 artist arall oedd hefo gwaith celf yn yr arddangosfa a ddewiswyd o gyfraniadau gan 100 o artistiaid. Roedd cyfle gennym i gyd wedyn i ennill y gystadleuaeth gelf, gyda gwobr go dda o £1,000! Rhoddwyd cymeradwyaeth i waith Leila Bebb a Tina Rogers, ond ‘Arty Jen-Jo’ aeth â hi, hefo’i gwaith fideo arloesol – sbardun i bob un ohonom ni archwilio ein potensial, gan ymfalchïo yn ein cyrff a symudiad. Hyfryd oedd gweld ei hymateb ar y noson!
Cymerais lun ‘meta’ hefo fy llun ‘Tywod amser y clyw’, a hynny cyn iddo werthu am £150!
Bu ffrydiau cyfrwng Cymraeg a Saesneg i’r ochr ysgrifennu creadigol, a fues i yn ddigon ffodus i ennill y wobr gyntaf yn y ffrwd cyfrwng Cymraeg hefo fy ngherdd ‘Ablaeth rhemp y crachach’, gyda chymeradwyaeth uchel i waith gan Wendy Jones, a chymeradwyaeth i waith Lee Green a Lowri Larsen. Yn y ffrwd Saesneg, Jane Campbell ddaeth i’r brig hefo’i cherdd ‘Aroused’, gyda cymeradwyaeth uchel i waith Rachel Carney, a chymeradwyaeth i waith Daniel Raja a Joshua Jones.
Perfformiadau a chyhoeddiadau
Gwahoddwyd fi a Jane Campbell i ddarllen ein cerddi buddugol, ac roedden ni wedi gwirioni wrth weld ein henwau ar y wal mewn stafell arbennig, a’n cerddi ar y wal hefyd!
Roeddwn wedi cyfieithu fy ngherdd i’w darllen yn y digwyddiad, a chymerais y cyfle i godi ymwybyddiaeth o’r gair ‘ableism’, ac ‘ablaeth’ yn y Gymraeg, yn ogystal â’r ffaith fod ‘ablaeth’ ar hyn o bryd ar goll o’n geiriaduron, ac felly ddim yn cael ei ddefnyddio yn aml i enwi’r rhagfarn sy’n bodoli tuag at bobol hefo anableddau.
Bu dathliad hefyd o ben-blwydd Celfyddydau Anabledd Cymru (CAC) yn 40 oed, gyda sôn am y gwaith arloesol maent wedi ei wneud hyd yn hyn, a’r gobeithion at y dyfodol. Soniwyd yn benodol am gyfraniadau enfawr Sara Beer a Ruth Fabby ar hyd y blynyddoedd, a thristwch wrth gyhoeddi eu bod nhw yn gadael i symud yn eu blaenau i gyfleoedd newydd.
Os hoffech weld cynnyrch y noson, ewch i wefan amam.cymru
Ymlaen â’r chwyldro!
Fodd bynnag, parhau y bydd y chwyldro tuag at feddylfryd Gymreig sy’n fwy agored a chynhwysfawr, gyda sawl prosiect cyffroes ar y gorwel. Yn y cyfamser, mi fydd yr arddangosfa yn aros yn g39 tan Ragfyr 17, i roi cyfle i drigolion ac ymwelwyr â Chaerdydd i’w mynychu a’i mwynhau. Yna, aiff yr arddangosfa ar daith o amgylch orielau Cymru, fel a ganlyn:
- Amgueddfa Dyffryn Cynon: Ionawr 7 – Chwefror 11
- Galeri, Caernarfon: Mawrth 3 – Ebrill 8
- Tŷ Pawb, Wrecsam: Ebrill 21 – Mai 27
- Oriel Davies, Y Drenewydd: Mehefin 9 – Gorffennaf 9
- Glyn Vivian, Abertawe: Gorffennaf 22 – Medi 3
Fy ngobaith mwyaf yw y caiff yr arddangosfa yr un parch ag a roddir i arddangosfeydd gan artistiaid heb anableddau.