Doedd gan enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen ddim diddordeb mewn darllen Cymraeg yn yr ysgol.

Enillodd Siôn Wyn Roberts, sy’n dod o Amlwch, Ynys Môn, gyda darn emosiynol am ei dad wedi marwolaeth yn y teulu.

Cafodd yr Eisteddfod ei chynnal dros y penwythnos (Tachwedd 18 ac 19).

Mae’r darn yn llafar iawn ac mae hyn yn rhan o arddull y llenor 30 oed, sy’n dweud bod sgrifennu’n llafar yn ffordd o helpu i sicrhau bod llenyddiaeth yn fwy cynhwysol.

Er bod ei nain ar ochr ei fam yn un am ddarllen, a’i fam yn barddoni, dim ond yn weddol ddiweddar mae Siôn Wyn Roberts wedi troi at sgrifennu ei hun.

“Dw i’n meddwl y gwnes i ddechrau sgrifennu ychydig bach yn fy ugeiniau cynnar,” meddai Siôn Wyn Roberts wrth golwg360.

“Wnes i ddim rili gwneud dim byd efo fo, wedyn yn lockdown, fe wnes i ddechrau sgrifennu darnau bach, jyst ryw ffordd o gael gwared ar stress.

“Roeddwn i jyst yn frustrated efo’r sefyllfa felly’n rhoi teimladau i lawr ar bapur.

“Dw i ond wedi bod yn sgrifennu ers tua tair blynedd. Dw i heb drio unrhyw fath o gystadleuaeth o blaen i fod yn onest.

“Fe wnes i jyst trio a doeddwn i ddim yn disgwyl dim byd ohono fo – mwy i weld os mae pobol yn licio sgrifennu fi.”

Sgrifennu’n llafar

Pam fod Siôn Wyn Roberts yn sgrifennu yn llafar a phwy yw’r prif ddylanwadau arno os nad oedd yn hoffi llyfrau Cymraeg yn yr ysgol?

“O ran dylanwad fel awdur, yn Gymraeg pan oeddwn i’n ifanc mae gen ti T Llew Jones efo llyfrau plant,” meddai.

“Dw i’n trio sgrifennu fel mae pobol yn siarad, trio sgrifennu fel mae pobol yn mynd i ddallt.

“Dw i ddim yn trio sgrifennu yn ffurfiol efo Cymraeg posh o gwbl fel yna.

“Y prif ddylanwad yn fan yna ydi Dewi Prysor..

“Dw i’n gallu uniaethu efo hynna, wedyn mae hynna’n dweud rhywbeth am y sgrifennu.

“Efo sgrifennu llafar dw i’n meddwl ei fod o’n fwy inclusive – mi oedd o i fi beth bynnag.

“Roedd y llyfrau yn yr ysgol yn boring ac yn hen ffasiwn, yn fy marn i.

“Doeddwn i methu dioddef nhw i fod yn onest, fel dw i wedi mynd yn hŷn dw i wedi dysgu i’w gwerthfawrogi nhw ond ar y pryd doedd gen i ddim diddordeb mewn darllen yn Gymraeg.

“Pan wnes i ddarllen llyfrau Manon Steffan Ros a Dewi Prysor fe wnes i ddechrau meddwl efallai fyswn i yn gallu cael go arni.”

Dynion yn dangos emosiwn

Mae’r darn yn ddarn emosiynol iawn, a dynion yw’r prif gymeriadau.

Ydi Siôn Wyn Roberts yn credu ei bod hi dal yn anodd i ddynion ddangos emosiwn?

“Roeddwn i’n siarad efo ffrindiau sydd yr oed a fi ac maen nhw’n cael hi’n anodd siarad am deulu efo ffrindiau agos,” meddai.

“Maen nhw’n dweud bod pobol sy’n ifengach, bod pobol sy’n eu hugeiniau cynnar, maen nhw’n gweld bod o lot gwell o gymharu efo oedran ni.

“Mae pethau yn newid yn slo,” ychwanega’r llenor.

“Dydi o ddim am ddigwydd dros nos.

“Y mwyaf o sylw mae o’n gael y gwell bydd hi mewn blynyddoedd i ddod.

Mae tad Siôn Wyn Roberts yn hoff o’r darn, a’r trafod emosiwn sydd ynddo.

“Yn amlwg, mae o’n ddarn sydd yn bersonol ac yn emosiynol i fi a Dad ond dw i’n meddwl y bydd lot o bobol yn gallu uniaethu efo fo ac efallai [y bydd yn] helpu rhywun i siarad am eu teimladau nhw dipyn bach.”

Rhybudd: iaith gref yn y darn isod.

Cadw Pellter

Roeddwn i wrth fy modd mynd yn y fan hefo Dad, oedd o’n un o’r pethau gorau oedd yn gallu digwydd. I fi, roedd o fatha rhywun yn gofyn os tisio mynd am sbin mewn Ferarri ne rwbath, oedd o’n speshal. Dwi dal yn gallu cofio Dad yn rhoid y fan yn ryfyrs, rhoid ei fraich dros hedrest y pasenjyr a bombio hi. Dwi ‘rioed di gweld neb yn ryfyrsho fatha Dad, ffwc o dalant.

Ar y dwrnod yma, nath y siwrna ddechrau yn ok. Newydd orffan yn y llardu oedd Dad ac roeddwn i di cael mynd hefo fo i helpu. Pan dwi’n deud helpu, mond gwatchad oeddwn i a symud ambell i beth ysgafn iawn pan fod Dad yn gofyn.

Ar y ffordd adra, ar ôl y ryfyrsho gwerth chweil lawr y lôn gul o’r llardu, nath Dad ddeud bod ni yn mynd i’r fynwant i weld Taid. Am weddill y siwrna, roeddwn i’n gwbod bod rwbath am ddigwydd a bod o ddim am fod yn rwbath hapus. Mond tair oed oeddwn i, ond roeddwn i’n gwbod bod Taid ddim ar y byd dim mwy. Dyna be oeddwn i’n ddalld o farwolaeth ar y pryd, bod nhw ddim ar y byd dim mwy. Dwi’n meddwl ella roeddwn i yn dechrau dalld be oedd nefoedd hefyd, felly oeddwn i yn gobeithio na yn fana oedd o. Rwla gwyn, neis.

Cyn cyrraedd y fynwant, natho ni barcio wrth y giatiau mawr, du. Dwi’n cofio meddwl bod y siwrna lawr at feddi’r teulu yn bell ac yn waith calad i gael yna, erbyn heddiw tua dau funud neu lai ydio.

“Sbia ar siapia’r cerrig ‘ma” oeddwn i’n feddwl bob tro, hen feddi wedi disgyn ar ben ei gilydd neu wedi torri yn ddarnau ac yn flêr i gyd. Doeddwn i ddim yn rhy siŵr o’r syniad o cael dy gladdu mewn ‘bedd bocs’ llechi fel sydd yn Llaneilian, uwchben y tir? Dim diolch. Nesh i ddim yn sylweddoli tan flynyddoedd wedyn bod eu cyrff nhw ‘dan ddaear hefyd.

Tua hanner ffordd lawr y llwybr, nesh i sylwi fod Dad hefo rhaw a cyllill llardu Taid. Be oedd o’n planio neud llu? Pan natho ni gyrraedd bedd Taid, dwi’n cofio deud helo wrth y beddi fel oeddan ni’n neud a dal i neud erbyn meddwl. Be sydd yn shit ydi, fel ti’n mynd yn hŷn mae gyno chdi fwy o ‘helos’ i ddeud yn Llaneilian.

Dechreuodd Dad dyllu twll hefo’r rhaw, mwya sydyn nath Dad ddechrau piso crio. A pan dwi’n deud crio, dwi’n meddwl crio. Natho grio fatha babi, oedd na ddagra yn llifo lawr ei focha ac yn disgyn i’r pridd. Ofn oedd y teimlad i gychwyn achos doeddwn i ddim isio gweld Taid yn y twll ond ar ôl dipyn nath Dad roid y cyllill yna a’i claddu. Nath y crio ddim sdopio. Hwn di’r atgof cynta sydd gyno fi o fod yn hollol drist, y trist pur ‘na pan mae hi’n teimlo bod dy galon di yn drwm ac yn brifo. Roeddwn i bron a marw isio crio hefyd, doedd Dad ddim yn fod i grio na? Ta oedd? Mond isda ar y llawr neshi, jysd yn trio anwybyddu’r ffaith bod Dad yn torri’i galon reit wrth fy ymyl. Dwi dal yn difaru peidio rhoid caru mawr iddo fo. Pa mor gyting di hyna?

Dw i ‘rioed wedi trafod hyn hefo Dad yr holl flynyddoedd wedyn, tua 27 mlynadd i fod yn hollol gywir.

Pellter oedd canlyniad y penderfyniad nesh i y diwrnod hwnnw, a dwi dal i gadw’r pellter yna hyd heddiw. Ac i be? I warchod fy hun rhag teimladau sydd yn bwysig i deimlo! Pa mor hunanol di hynna?!

Ers hyn, dwi wedi dysgu gwers holl bwysig bod y dynion cryfa yn dy fywyd yn wan weithia, a bod hynna yn ok.

Peidiwch a bod yn bell pan mae hyn yn digwydd.

Siôn Wyn Roberts