Mared Fflur Jones o Glwb Ffermwyr Ifanc Dinas Mawddwy, Meirionnydd ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yn Sir Benfro eleni.
Ers iddi fod yn blentyn, ei huchelgais o fewn y mudiad oedd cipio’r Goron, a gwireddodd y freuddwyd â chasgliad o lên-meicro ar y testun ‘Llanw a Thrai’.
Mae hi’n athrawes Gymraeg dan hyfforddiant ac, yn ôl y beirniad Cathryn Gwynn, “ymatebodd i’r testun gydag amrywiaeth gwreiddiol a sglein”.
Yma, mae golwg360 yn cyhoeddi’r casgliad buddugol:
Llên-meicro – ‘Llanw a Thrai’
Dyma gariad fel y moroedd
“Fedrwch chi ddim bod yn siriys?”
“Dwi’n meddwl i fod o’n syniad neis”.
“Meddyliwch, mewn difri calon, Nain! Yda’ chi wir ddim yn gweld yr eironi?”
“Dyma dwi isio”.
Gwenodd yn wantan, ond fe wyddai Megan ei bod yn benderfynol. Roedd ei llygaid mor danllyd ag erioed. Yr un oedd hi, dim ond bod bandana gwyrdd lle bu perm a blŵ rins taclus.
**
Aethant oll yn ôl ei dymuniad i lawr i draeth Llandanwg ar brynhawn cythreulig o wyntog. Pawb yn eu cotiau gorau a’u welingtons glân. Rhannu straeon a hanesion, nes cyrraedd rhimyn y dŵr. Wrth iddynt ganu ei hoff emyn, agorwyd y caead, a’i gollwng yn rhydd. Cipiwyd y llwch, y galar, yr atgofion a’r eironi ar adain y gwynt, a’u cario ymaith. Roedd hi wedi mynd.
Ribidirês
Dau blisman, dau gogydd, dau athro, dwy nyrs – i mewn i’r arch a nhw. Safai Noa yn ei siwt las orau wrth geg y drws, ei wallt golau blêr wedi’u gribo dan het galed a chlipfwrdd yn ei law. Tyfodd ei hyder bob yr eiliad – y fo oedd bia dweud wedi’r cyfan. Daeth dau arall i’w gyfarth.
“Wel, croeso, croeso i chi” meddai, yn glown yn barod i ddiddanu.
“Be di’ch gwaith chi?”
“Doctor” meddai’r ddau, un ar ôl y llall.
“Gwych! Toes geno ni r’un ar fwrdd yr arch eto. Dim ond dwy nyrs, ond rhyngtho chi a fi, fuaswn i ddim am iddyn nhw fy nhrin i. Be ma’ nhw’n ddeud? Paynuts, getmonkeys?”
Gwridodd y lleill o’i glywed yn bychanu eu cydweithwyr.
“Felly dachi’m yn debygol o angen budd-daliadau gan bo’ chi’n ddoctors na? Hyd yn oed gwell. Reis, be am y gymuned? Faint dachi’n gyfrannu i’ch cymuned?”
Aethant ati i esbonio mai nhw oedd yn gyfrifol am y neuadd gymunedol yn eu hardal, a’u bod wedi sefydlu banciau bwyd yn y trefi cyfagos. Nodiodd Noa yn fodlon, roedd rhein yn bobl gwerth eu hachub. Atebwyd y cwestiynau’n foddhaol yn un llith, nes cyrraedd y cwestiwn olaf.
“Un i orffen felly, lle gafo’ chi’ch geni? Neith enw’r dre’ neu’r ddinas y tro”
“Kabul” atebodd un. Arhosodd y llall yn fud.
Surodd ei wyneb yn syth, cyn cofio lle’r oedd, a pheintio’r wên fach ffals yn ôl ar ei wyneb.
“Yn anffodus, dim ond lle i Brydeinwyr sydd ar yr arch yma. Be am i chi drio rwle arall?”
Môr o Gariad
Byddai’r atgof yn mynnu ei bigo pob tro yr âi’n ôl i Gefn Sidan. Math o atgof sy’n hawlio’i le’n dwt mewn rom com crap. Eiliw’r haul yn hwylio dros yr heli’n dynodi fod y dydd ’di darfod. Cerdded law yn llaw dan y sêr, neu’n rhedeg am y cyntaf i neidio dros y tonnau. Gorweddian yn y tywod cynnes a’u cyrff yn sownd gan chwys. Cofiai’r goflaid gyntaf, y gusan gyntaf… y cariad cyntaf.
Hen, hen hanes.
Gwaddod y môr o gariad o roddodd iddi hi.
Unig
Dwi’n ‘i gweld nhw’n syllu, a bron mod i’n darllan ‘u meddwl nhw. Bechod. Hen ddynas yn isda ar y traeth ben ‘i hun. Rhaid bo’ hi’n byw ben ‘i hun, yn unig. Ond tydw i ddim – yn byw fy hun ‘lly. Sleifio allan fydda i, tra’i fod o’n cysgu neu rhywun arall yn edrach ar ‘i ôl o. Mond rhyw awran fach. Awran ben fy hun, i mi fy hun, i ga’l bod yn unig. Dim gwraig na gwarcheidwad. Fi. A fa’ma fydda i’n dod bob tro. Deckchaira fflasg o goffi llaeth, a’r môr. Ma’r môr yn ffeind wrtha i dachi’n gweld. Mae o wastad yno. Mi fydd o’n chwara fo nhraed i weithia, dro arall yn sibrwd a sisial i nghysuro i. Mae o’n gadal i mi siarad, yn gwrando ar yng nghwynion a nghyfrinacha fi gyd. Cario nhw’i ffwr’, heb ddeud wrth neb.
Beth yw’r haf i mi?
Newidiodd drefn y clustogau ar y gwely unwaith eto. Gwell? Byddai’n rhaid iddynt wneud y tro, doedd dim amser i’w sbario. Byddai gwesteion cynta’r haf yma cyn hir, a hithau’n dal heb ddystio’r ’stafell fyw a datgymalu’r gwe pry cop a ffurfiodd dros y gaeaf. Os y câi popeth yn ei le ar ddechrau’r tymor, dim ond mater o dwtio rhwng cwsmeriaid fyddai hi wedyn. Roedd yn ffyddiog y byddai’n brysurach eleni, wedi newid yr enw. Wedi’r cyfan, roedd Seaview Cottage yn enw llawer haws i’r ymwelwyr ei ddarganfod ’na Llain Deg. Meddyliodd y byddai’n braf prynu soffa newydd i’r cartref gyda’r elw o’r tŷ yma. Stopiodd ei hun rhag breuddwydio’n ormodol. Roedd ’na fisoedd i fynd a digon o broblemau i’w sortio cyn hynny. Yn un peth, pwy fyddai’n llnau’r tŷ penwythnos nesa’ er mwyn iddi fynd i’r rali Nid yw Cymru ar Werth?
Creigiau Aberdaron
Aeth at y graig arferol, a syllu. Fe welai rhywbeth newydd yng nghyfansoddiad y dŵr pob tro, rhywbeth fyddai’n ei berswadio i aros. Doedd dim dwyn perswâd i fod heddiw. Dechreuodd dynni ei ‘sgidiau, er na wyddai pam. Teimlodd ronynnau bach y tywod yn dawnsio rhwng bodiau ei draed. Camodd yn araf, y dŵr yn codi’n araf bach. Ni ddisgwyliodd deimlo mor gysurus yn y lleithder. Cai gysur o wybod na fyddai’n fwrn mwyach, ond atgof i ganu clod. O wybod na thyfai’n hen a pharchus. Caeodd ei lygaid a chwrcwd dan y dŵr. Ildiodd i donnau’r môr, dan greigiau Aberdaron.
Clychau Aberdyfi
“Ma’n boddi! Ma’n boddi!”
Deffrodd Menna o’i thrwmgwsg, ei chroen wedi crimpio dan y gwres. Boddi? Lle oedd y ddau fach?
“Ma’n boddi! Help!”
Llais Twm. Ifan yn boddi. Neidiodd i’w thraed a rhedeg i gyfeiriad y tonnau. Sathrodd ar gestyll tywod a chregyn a cherrig. Sut fedrai hi fod wedi cysgu? Hi oedd fod i’w gwylio a’u gwarchod. Rhegodd am yn ail a gweiddi amdanynt.
“Lle ’da chi?” sgrechiodd.
“Mam? O, da ni’n fa’ma”.
Gwelodd ddwylo bach yn ymestyn uwch y creigiau ar ochr fas y dŵr. Rhedodd nerth ei thraed, oedd bellach yn gwaedu o’r ymdrech flaenorol, nes cyrraedd y ddau fach.
“Haia Mam, tisho chwara efo ni?” gofynnodd Ifan yn gorwedd yn braf ar ymyl gudd y graig.
“Chwara? Oni’n meddwl… Twm pam bo’ ti’n gweiddi fod Ifan yn boddi?! Be ffw-“
“Chwara Cantra’r Gwaelod da’ ni Mam. Fo ’di Seithennyn yn cysgu a fi di un o’r bobl”.
Damiodd ei hun am esbonio hanes y clychau dan y jeti.