Llwybrau defaid oedd testun cerdd fuddugol cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod y Ffermwyr ifanc yn Abergwaun dros y penwythnos (dydd Sadwrn, Tachwedd 19).
Lisa Angharad Evans o Glwb Godre’r Eifl yn Eryri ddaeth i’r brig, gyda diolch i’w diweddar daid am ennyn ei diddordeb mewn ffermio a chefn gwlad.
Derbyniodd y gyfreithwraig dan hyfforddiant ganmoliaeth gan y beirniad Ceri Wyn Jones, a ddywedodd fod y “bardd byrlymus” yn “gwybod gwerth canolbwyntio ar un lleoliad ac un pwnc yn hytrach na cheisio cwmpasu tipyn o bopeth a thasgu i bob cyfeiriad”.
Yma mae golwg360 yn rhannu’r gerdd fuddugol:
Llwybrau
Y llwybrau
sathredig ar y llethrau serth
yn igam ogamu ar ochrau’r foel.
Fe’u creëwyd gan y cenedlaethau
o ddefaid ufudd
fu’n dilyn ei gilydd yn llawn ffydd,
o’r hendref i’w cynefin,
i chwilota’n chwannog ar lechweddau
am flewyn prin y porfeydd geirwon,
a chnoi cil cyn ymgilio
i gysgodi, a mynd i gysgu
i adloniant hudol cerddorfa’r corhedydd
a’r mwyalch mynydd.
Heb rybudd rhyw ben bore
ar doriad gwaedlyd y wawr,
ymhell cyn diflaniad perlau’r gwlith,
clywir clapian cwynfanus y Celpiaid cyhyrog
yn crafangu i fyny’r cwm,
i ysgubo’r ddiadell
yn
un
linell
hir
laethog
i lawr
llwybrau’r
llethrau,
o’u rhyddid, i’w didoli
mewn sgwariau caeëdig.
I’w cneifio.
I’w dipio.
I’w dosio.
I’w rhoi i’r hwrdd.
I’w hanfon i ffwrdd.
Ond yn ddi-ffael wrth hel mynydd,
bydd un ddafad ffôl
yn aros ar ôl.
Y ddafad wargaled honno,
sy’n gwrthod cydymffurfio
a’n osgoi cael ei ‘sgubo
lawr y llwybrau sathredig
i garchar y caeau sgwâr.
Ei dewis yw dawnsio ar y dibyn
a chrwydro o’i chynefin,
a’i mentro hi ar y mynydd,
i dorri tir newydd.
A’r byd i gyd o’i blaen.
Dyheaf am fod fel y ddafad!