Mae Adwaith yn dweud eu bod nhw wedi rhoi’r gorau i “geisio darbwyllo rhyw Lundeiniwr fod y Gymraeg yn cŵl”, a bod yn well o lawer ganddyn nhw droi eu sylw at Ewrop.
Daw sylwadau’r band o Gaerfyrddin mewn cyfweliad â chylchgrawn cerddoriaeth Clash.
Mae’r erthygl yn tynnu sylw at rai o lwyddiannau’r band eleni, gan gynnwys rhyddhau’r sengl ‘Bato Mato’, perfformiadau yn Glastonbury a Gŵyl y Dyn Gwyrdd, a’r fraint o fod y band cyntaf erioed i dderbyn y Wobr Gerddoriaeth ddwywaith – cyflawniadau sydd wedi achosi iddyn nhw “dorri nenfydau gwydr niferus”.
“Er gwaethaf blynyddoedd o ormes systematig gan gymdogion Seisnig, cerddorion Cymraeg cyfoes yw’r llefarwyr modern sy’n siapio geirfa naratif eu gwlad,” meddai’r erthygl sy’n rhoi sylw i ran o’r digwyddiad Dyma Ni!
“Mae hi’n hen bryd i’n diwydiant Llundeinig ddihuno a gwrando.”
Mae’r erthygl yn mynd yn ei blaen i ofyn, ‘Pam, yn Lloegr, nad yw’r gerddoriaeth hon yn cael ei chydnabod i’r graddau mae’n ei haeddu?’
“Er gwaetha’r llwyddiannau hyn, fodd bynnag, mae’r band yn dal i deimlo eu bod nhw’n cael gwaith cael eu cymryd o ddifri gan hyrwyddwyr, asiantiaid bwcio a gorsafoedd radio Llundeinig.”
‘Troi trwyn i fyny’
“Mae’r gwrandawyr wrth eu boddau, jyst pobol y diwydiant sydd ddim wir yn gwybod beth i’w wneud ag e, ac maen nhw’n ryw fath o droi eu trwyn i fyny arno fe,” meddai Hollie, un o aelodau Adwaith.
Yn ôl Gwenllian, un arall o aelodau’r band, does dim angen i’r band fynd i Lundain i gael cyfleoedd mawr.
“Rydyn ni jyst yn mynd heibio Llundain ac yn mynd i Ewrop lle mae’n cael ei dderbyn mwy a lle maen nhw’n deall yn fwy beth rydyn ni’n ei wneud,” meddai.
“Rydyn ni wedi bod yn trio cael asiant bwcio yn y Deyrnas Unedig ers blynyddoedd, ac mae hi bob amser fel, ‘A, ie, diddordeb, maen nhw’n dda iawn, maen nhw’n canu yn Gymraeg ond ddim wir yn siŵr, fe wna i ddod i’r gig yma.”
Ac yn ôl Heledd, y trydydd aelod, “maen nhw bob amser yn addo dod i gig ac wedyn ddim yn troi lan”.