Yr her o fagu teulu ifanc yn ystod y cyfnod clo sydd dan sylw yng ngherddi buddugol Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen.

Prif Weithredwr Partneriaeth Ogwen, Meleri Davies, gipiodd y Gadair dros y penwythnos gyda chyfres o gerddi ar y thema ‘Ynysu’.

Daw Meleri Davies o Gwm Prysor, Trawsfynydd yn wreiddiol, ond mae hi’n byw yn Nyffryn Ogwen ers 16 mlynedd ac wedi ymgartrefu yn Llanllechid bellach.

Wrth siarad am y dylanwadau arni, dywed ei bod yn sgrifennu llawer am ei bywyd personol a’i theimladau.

“Be sy’n fy sbarduno i lot ydi bywyd teuluol a fy sefyllfa i yn magu teulu yn yr oes yma. Dw i’n sgrifennu am y teimladau hollol bersonol yna mewn ymateb i bethau beunyddiol bywyd y teulu,” meddai Meleri Davies.

“Mae rhai o’r cerddi yn siarad am fy mhrofiadau i o fagu [plant] yn ystod argyfwng Covid, lle’r oedd yna lot o straen ar unrhyw riant.

“Yn sicr, fe wnaethom ni ffeindio fo’n anodd trio gweithio a magu teulu ifanc yn ystod Covid.”

“Roedden ni’n andros o brysur trwy’r clo, ac roedd fy ngŵr i hefyd yn gweithio felly roedden ni’n trio jyglo gwaith a gofal.

“Doedd hi ddim yn sefyllfa gynaliadwy i fod yn onest.

“Ochor arall y geiniog ydy ein bod ni wedi treulio llawer o amser efo’n gilydd a’n bod ni hefyd wedi gallu crwydro llwybrau lleol Llanllechid a defnyddio’r cyfnod i ddod i adnabod ein cynefin yn well.

“Mi fysa chdi’n gallu dweud bod ein huned deuluol ni yn agosach oherwydd Covid.”

Yr hwb i rannu’i gwaith

Mae cryn dipyn o waith Meleri Davies yn ymateb yn uniongyrchol i brofiadau personol anodd, ac fe wnaeth sgrifennu ei helpu’n ystod y cyfnodau clo.

“Fe wnes i sgrifennu llawer o farddoniaeth ar ôl colli fy mam 9 mlynedd yn ôl ac mae’r cerddi y gwnes i gyflwyno i gystadleuaeth Cadair Dyffryn Ogwen yn cyfleu fy nheimladau i’n trio magu teulu ifanc.

“Mae ambell un wedi eu sgrifennu yn ystod y cyfnod clo ond mae rhai eraill yn ymwneud yn fwy â’r heriau a’r llawenydd sy’n dod o fagu teulu.”

Er bod Meleri Davies yn barddoni ers blynyddoedd, dim ond yn ddiweddar y mae hi wedi dechrau cyhoeddi ei gwaith, a hynny gyda Chyhoeddiadau’r Stamp a roddodd hyder iddi rannu ei gwaith yn gyhoeddus.

Mae’r Stamp yn gwahodd cyfraniadau yn ddienw bob hyn a hyn ar gyfer cyfnodolion o farddoniaeth, a’r rheiny’n cael eu hystyried gan olygyddion gwadd.

“Dydy eich enw chi ddim yna felly mae o’n broses eithaf da i ysgrifenwyr newydd allu cyflwyno gwaith, dwi’n meddwl. Does dim unrhyw fath o bwysau,” meddai Meleri Davies gan ychwanegu ei bod yn hoff iawn o farddoniaeth gan feirdd Cymraeg cyfoes megis cyfrol Marged Tudur, Mynd, a cherddi Llŷr Gwyn Lewis, enillydd Coron Eisteddfod Tregaron.

“Mae cyhoeddi fy ngwaith efo Cyhoeddiadau’r Stamp wedi bod yn beth da i mi o ran codi hyder.

“Am y tro cyntaf erioed fe wnes i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2020 (Eisteddfod Amgen 2020) ac fe wnes i ennill ar y llên-meicro.

“Roedd hwnna’n hwb mawr i fy hyder o ran sgrifennu.”

Dyma un o’r cerddi o’r casgliad buddugol:

Annwn

Dwi mewn cyfarfod arall. Rhithiol wrth gwrs. Lot o ddynion a fi

a’m llais wedi ei ddiffodd.

Ond yn yr Annwn o dan fy nesg,

mae’r fenga yn lledrithio byd gwell

a’i chanu yn codi uwchlaw grwn y Zoom

yn Fabinogi o eiriau a chwedlau dwi wedi eu hen anghofio.

Mae hi’n cofleidio fy nghlun â thorch euraidd ei breichiau

cyn ymestyn ei chorff bach yn belen i ‘nghôl.

Mae’n gwingo a’i gwinedd yn suddo i gnawd

trwy byjamas blêr.

A minnau’n ei gwrthod.

Yn hologram grotesg o warth ar y sgrin.

Fy sgrech Arianrhod fewnol yn fud i’r byd tu draw.

 

Ond dwi’n ei chodi, a daw’r rhith i ben.

Ei hanadl yn suo’n gynnes ar fy ngwâr.

Ei breichiau bach yn anwesu cydynnau gwymon fy ngwallt.

Mae lleisiau’r cyfarfod rhithwir yn tawelu

ac am eiliadau –

eiliadau –

mae sgriniau’n dadmer,

wynebau llwyd yn meddalu

a phicsalau’n anadlu rhyddhad a rhyfeddod.

A dwi’n cofio rwan.

Cofio pob gair.