Mae nifer wedi talu teyrnged i Elvey MacDonald, fu farw yn 81 oed fore ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 23).

Cafodd ei eni yn Nhrelew, Patagonia yn 1941, a daeth draw i Gymru am y tro cyntaf yn 1965, cyn ymgartrefu yn Llanrhystud ger Aberystwyth.

Cafodd ef a’i chwaer Edith eu magu ar aelwyd Gymraeg.

Bu’n gyd-drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol am gyfnod, cyn mynd yn gyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd rhwng 1974 a 1997.

Sefydlodd orsaf radio Gymraeg Radio Ceredigion, gafodd ei lansio ym mis Tachwedd 1992.

Troi Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl

Un sydd â llu o atgofion ohono yw Wynne Melville Jones.

Bu’r ddau’n cydweithio yn yr Urdd, ac mae’n dweud mai i Elvey MacDonald mae’r diolch am ddatblygu Eisteddfod yr Urdd.

“Fe wnaeth o ddatblygu’r Eisteddfod o fod yn rhyw Eisteddfod digon hen ffasiwn i fod yn ŵyl i bobol ifanc,” meddai wrth golwg360.

“Pan ddechreuais i [gyda’r Urdd], yr Eisteddfod gyntaf wnes i oedd Eisteddfod Llanidloes ym Maldwyn, a’r cyfan oedd yna oedd pabell fawr ar ganol y maes, pabell lwyd, pabell cymorth gyntaf, pabell yr Urdd a rhyw dŷ bach.

“Ac wrth gwrs, roedd y plant bach oedd yn cystadlu’n gyffrous iawn achos roedden nhw wedi bod drwy’r Eisteddfod gylch a’r Eisteddfod sir, ac roedd yn beth mawr iawn cyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Ond pan yn cyrraedd y genedlaethol, doedd y rhan fwyaf ohonyn nhw ddim yn gweld ymhellach na’r rhagbrawf yn gynnar yn y bore.

“Ac felly os nad oedden nhw’n cyrraedd y llwyfan, doedd dim byd o gwbl iddyn nhw wneud.

“Ond erbyn hyn mae bron pawb yn cael llwyfan a chyfle.

“Fe wnaeth gyfraniad mawr iawn ac fe ddangosodd y ffordd.

“Mae’n sicr wedi symud yr ŵyl yn ei blaen.

“Pwy all fesur cyfraniad rhywun fel Elvey? Rhywun mor arbennig.

“Mi adawodd ei farc ar yr Urdd.”

‘Braint’ ei adnabod

“Fi’n falch iawn ’mod i wedi cael y fraint o gydweithio gyda fe, ei nabod a bod yn gyfaill iddo fe,” meddai wedyn.

“Roedd wedi’i drwytho yn y traddodiadau a’r diwylliant Cymraeg.

“Roedd e’n naturiol uchelgeisiol, ond roedd ganddo sgiliau eithaf arbennig o safbwynt trin pobol.

“Dyw pawb sy’n ymwneud ag Eisteddfod yr Urdd ddim wastad yn bobol rwydd iawn… ac roedd ganddo fe ffordd, a thrwy hynny roedd yn llwyddo i ddod â syniadau newydd a newid pethau i bobol.

“Roedd e’n berson penderfynol a pherson brwd iawn, ac roedd ei ddiddordeb a’i gyfraniad i’r Urdd fel mudiad yn arbennig iawn.”

‘Cymaint rhan o’n bywyd ni’

“Rydyn ni wedi ein tristau wrth glywed am golli Elvey MacDonald, y Cymro o Batagonia a fu’n gymaint rhan o’n bywyd ni yma yng Nghymru,” meddai’r Eisteddfod.

“Byddwn yn cofio ei waith gyda’r Urdd a’i gyfnod yn gweithio gyda ni hefyd.

“Rydyn ni’n anfon ein cydymdeimladau dwysaf at ei deulu a’i ffrindiau.”

Un arall sydd wedi talu teyrnged iddo yw’r newyddiadurwr Alun Thomas.

“Mae’n wir ddrwg gen i glywed am farwolaeth Elvey,” meddai.

“Roedd ei frwdfrydedd a’i gefnogaeth i’r criw ifanc oedd yn ceisio gwireddu ei freuddwyd o sefydlu radio cymunedol yng Ngheredigion 30 mlynedd yn ôl yn amhrisiadwy.”

Yn ôl Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru, “dyn caredig, diffuant ac annwyl oedd Elvey”.

“Ond roedd yna gadernid tawel ac hyderus yn perthyn iddo hefyd, ynghyd ag angerdd dros y Gymraeg a thros bobol ei ddwy wlad.

“Braint oedd ei adnabod ac anfonaf bob cydymdeimlad at ei deulu hyfryd.”