Wrth i dywydd gaeafol ddechrau gafael mae nifer o bobol yn poeni am sut fyddan nhw’n fforddio cynhesu eu tai yn sgil cynnydd aruthrol mewn costau ynni.

Fodd bynnag, mae cymorth ariannol ar gael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i rai o bobol fwyaf bregus ein cymdeithas.

Ond beth yn union sydd ar gael a phwy sy’n gymwys i dderbyn yr arian?

Beth yw’r Taliad Tywydd Oer?

Bwriad y cynllun yw cefnogi pobol Cymru a Lloegr yn ystod cyfnodau pan fo’r tywydd yn eithriadol o oer.

Mae cymhwysedd yn dibynnu ar ba mor oer yw hi yn eich ardal ac a ydych eisoes yn derbyn cymorth drwy fudd-daliadau.

Pwy all dderbyn y Taliad Tywydd Oer?

Fyddwch chi ddim ond yn gymwys ar gyfer y taliad tywydd oer os ydych chi eisoes yn derbyn:

  • Credyd Pensiwn
  • Cymorth Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag Incwm
  • Credyd Cynhwysol

Fe ddylai’r rhai sy’n gymwys gael eu talu’n awtomatig. Nid oes angen gwneud cais.

Faint allwch chi ei gael?

Fe gewch chi £25 am bob cyfnod saith diwrnod o dywydd oer iawn.

Hynny yw, os yw’r tymheredd sy’n cael ei gofnodi neu ei ragolygu yn ei hardal chi yn sero gradd selsiws neu is rhwng Tachwedd 1 a Mawrth 31.

Ar ôl pob cyfnod o dywydd oer iawn yn eich ardal chi, dylech chi gael taliad o fewn 14 diwrnod gwaith.

Caiff y swm ei roi i’r un cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu â’ch taliadau budd-dal.

Os nad ydych chi’n derbyn taliad ond yn credu y dylech fod wedi ei dderbyn, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn neu’r Ganolfan Byd Gwaith am gymorth.