Mae gwleidyddion Plaid Cymru yng Ngheredigion wedi beirniadu’r penderfyniad i gau cangen Banc Lloyds yn Llanbedr Pont Steffan.
Daw hyn yn dilyn cadarnhad y bydd y gangen yn cau ar Fai 15 y flwyddyn nesaf, wrth i’r cwmni ddweud eu bod nhw’n ymateb i arferion cwsmeriaid a gostyngiad sylweddol yn nifer y bobol sy’n mynd i’r gangen.
Yn ôl Ben Lake, Aelod Seneddol y sir, mae cau canghennau gwledig “yn rhy gyffredin” ac mae’n amddifadu cymunedau o “wasanaethau hanfodol bwysig” wrth i bobol fethu â theithio.
Dywed Ben Lake ac Elin Jones, Aelod o’r Senedd dros Geredigion, eu bod nhw’n ceisio cyfarfod brys i drafod y rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniad, ac i geisio atebion amgen i drigolion sy’n wynebu bod heb fanc lleol.
Maen nhw hefyd am weld banciau cymunedol yn cael eu cyflwyno mewn cymunedau gwledig gan “sicrhau bod anghenion arian parod cymunedau lleol yn cael eu diwallu”.
Byddai canolfannau cymunedol yn sicrhau bod gwasanaeth cownter yn cael ei weithredu gan staff Swyddfa’r Post, lle gallai cwmseriaid sy’n bancio ag unrhyw gwmni yn cael tynnu neu ollwng arian, talu biliau a gwneud unrhyw drafodion eraill.
‘Siom’
“Dw i wedi fy siomi’n fawr o glywed cyhoeddiad Lloyds,” meddai Ben Lake.
“Os yw’r cau hwn yn mynd yn ei flaen, bydd trigolion Llanbed a’r ardal ehangach yn cael eu gadael heb fanc a’r gwasanaethau hanfodol bwysig mae’n eu cynnig i gwsmeriaid unigol ac i fusnesau lleol.
“Dw i’n gobeithio cyfarfod â Lloyds yn y dyfodol agos i herio’r rhesymau dros y penderfyniad, ac i drafod pa opsiynau fyddan nhw’n eu cynnig i’m hetholwyr nad ydyn nhw efallai’n gallu teithio i rywle arall am wasanaethau bancio pe bai’r cau yn digwydd.
“Yn anffodus, mae cau banciau, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig, yn dod yn rhy gyffredin.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn addo ers amser hir y byddan nhw’n deddfu er mwyn sicrhau mynediad at arian, ac mae deddfwriaeth yn mynd rhagddi ar hyn o bryd yn y senedd [yn San Steffan] fyddai’n cryfhau’r gyfraith er mwyn gwarchod gwasanaethau bancio cymunedol.
“Gobeithio na fydd y gyfraith hon yn dod yn rhy hwyr i Lanbed, ond byddaf yn parhau i godi mater gwasanaethau bancio gwledig gyda’r Trysorlys i weld pa drafodaethau maen nhw’n eu cynnal â banciau er mwyn sicrhau ein bod ni’n cynnal y gwasanaethau hanfodol bwysig hyn i’r rhai sydd eu hangen.”
‘Ergyd enfawr’
Yn ôl Elin Jones, mae’r newyddion yn “ergyd enfawr i drigolion, busnesau a chymdeithasau lleol yn Llanbed” – “yn enwedig cwmseriaid oedrannus a bregus allai ei chael hi’n anodd cael mynediad at opsiynau amgen dichonadwy”.
“Ers amser hir, dw i wedi hybu pwysigrwydd cynnal economi leol fywiog o wasanaethau lleol hanfodol yn ein holl drefi marchnad lleol, gan gynnwys bancio a thrafod arian ar gyfer busnesau ac unigolion fel ei gilydd,” meddai.
“Yn anffodus, mae nifer y canghennau banc a pheiriannau twll yn y wal sy’n rhad ac am ddim i’w defnyddio wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae’n hanfodol fod deddfwriaeth newydd yn gwarchod arian parod rhad ac am ddim i’r miliynau o bobol sy’n dibynnu arno.
“Gallai sefydlu canolfannau bancio yng Ngheredigion adfywio ein Stryd Fawr ac yn hanfodol, byddai’n sicrhau bod anghenion arian parod cymunedau lleol yn cael eu diwallu.”