Mae hi’n “gywilyddus” fod banciau’n cau mewn trefi cyn i hybiau bancio gael eu hagor yno, medd un cynghorydd yn Ninbych.
Bydd cangen HSBC yn y dref yn cau haf nesaf, ynghyd ag 11 cangen arall yng Nghymru, a thros gant arall mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.
Yn ôl y cynghorydd annibynnol Mark Young, sy’n cynrychioli un o wardiau Dinbych ar y cyngor sir, mae hi’n “anfaddeuol” fod HSBC yn rhuthro i gau’r canghennau heb “roi unrhyw egni tuag at sortio hybiau”.
Mae addewidion wedi bod i agor 27 hwb bancio, lle byddai gwahanol fanciau’n rhannu cyfleusterau a gweithio dan un to, dros y Deyrnas Unedig, ond hyd yn hyn dim ond dau hwb sydd wedi agor.
Yn y cyfamser, mae Gareth Davies, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Ddyffryn Clwyd, wedi sefydlu deiseb yn galw am achub HSBC Dinbych.
“Dw i’n meddwl bod angen i’r banciau cenedlaethol gofio, mewn amser o angen fe wnaeth y trethdalwyr eu helpu nhw allan o dwll ac maen nhw angen ein had-dalu ni,” meddai Mark Young, cynghorydd Dinbych [Isaf], wrth golwg360.
“Fe wnaethon ni edrych ar eu holau nhw, maen nhw angen ein had-dalu ni drwy sicrhau bod yr hybiau yn agor.
“Dydy rhai aelodau o’n cymdeithas ni ddim yn barod i fancio ar-lein, yr henoed, pobol ag anableddau, pobol sy’n ei chael hi’n anodd bancio ar-lein.
“Mae’n eithriadol o bwysig, a dw i’n meddwl ei bod hi’n gywilyddus nad ydyn nhw wedi gwneud mwy o ymdrech i sortio’r hybiau na helpu gyda hyfforddiant i bobol sydd eisiau bancio ar-lein.
“Dw i’n meddwl eu bod nhw wedi’n hamddifadu ni ar y stryd fawr, a’i fod yn gywilyddus.”
‘Scrooges y byd bancio’
Mae angen sicrhau bod gan y gymuned ffordd o fancio’n ddiogel, yn ôl Mark Young.
“Dydy ar-lein ddim yn siwtio pawb, fyswn i byth yn dymuno i fy mam, sydd yn ei 80au, i fancio ar-lein,” meddai wedyn.
“Maen nhw wedi derbyn y dylai’r hybiau hyn fod yn eu lle. Mae’r sefydliadau hyn mor fawr, mor gyfoethog felly pam nad ydyn nhw wedi agor yr hybiau?
“Y peth iawn fyddai agor y cyfleusterau ar y cyd cyn cau unrhyw fanciau.
“Os nad ydy rheolwyr y banc yn gwneud hynny, yna maen nhw am gael eu gweld fel Scrooges y byd bancio.
“Dw i’n teimlo’n ddrwg dros y staff, mae’r staff yn HSBC yn wych, dw i’n adnabod y staff presennol a’r hen aelodau ac mae’n rhaid eu bod nhw wedi ypsetio yn sgil hyn.
“Maen [HSBC] wedi bod yn gul eu meddwl, a dylen nhw ad-dalu’r cymunedau maen nhw wedi elwa yn eu sgil drwy sicrhau bod y cyfleusterau maen nhw wedi’u haddo yn eu lle.
“Dydy hyn ddim yn syndod, ond mae’n fy nhristau.”
‘Trefi bach angen banciau’
Wrth sefydlu deiseb i achub y gangen, dywed Gareth Davies, sy’n cynrychioli’r ardal yn y Senedd, fod angen mynediad ar drefi bach at fanciau ar y Stryd Fawr.
“Rydyn ni wedi gweld cymaint o strydoedd mawr dros Gymru’n distewi yn sgil newid i’r ffordd mae pobol yn prynu, a dw i’n poeni am ddyfodol Stryd Fawr Dinbych,” meddai.
“Mae trefi gwledig yn aml yn wynebu effaith waethaf siopau’n cau, a gall cau canghennau banciau adael preswylwyr hŷn heb gysylltiad hawdd â’u banc.
“Dw i’n galw ar HSBC i wyrdroi’r penderfyniad a chefnogi trigolion lleol i gael mynediad hawdd at eu banc.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan HSBC.