Wrth gyfarfod ag un o bwyllgorau’r Senedd, mae’r Arglwydd Bellamy wedi cadarnhau y bydd holl wasanaethau ar-lein y llysoedd ar gael yn Gymraeg, ac y bydd y rhain yn cynnwys gwneud cais am ysgariad a thalu dirwy.

Fe fu’r Arglwydd Bellamy yn cyfarfod â Phwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 5).

Tra bod nifer o wasanaethau digidol eisoes ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r Llywodraeth wedi derbyn argymhellion adroddiad yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd ar gyfiawnder yng Nghymru, sy’n nodi bod angen sicrhau bod yr holl wasanaethau ar gael i siaradwyr Cymraeg ochr yn ochr â gwasanaethau Saesneg.

Bydd y newid yn golygu na fydd angen bellach i wybodaeth gael ei chyfieithu cyn i bobol ddefnyddio’r gwasanaethau.

Daw’r cyhoeddiad hwn wrth i Grŵp Rhyng-Weinidogol gael ei sefydlu o blith aelodau o Lywodraeth San Steffan, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon er mwyn cynyddu’r cydweithio ar feysydd cyfiawnder sydd yn gyffredin rhwng y pedair gwlad.

Bydd y grŵp yn cyfarfod bob tri mis i rannu gwybodaeth ac i drafod materion sy’n berthnasol i’r Deyrnas Unedig gyfan, megis adferiad y llysoedd wedi’r pandemig Covid-19, cefnogi dioddefwyr a’r Bil Hawliau.

Mae disgwyl i’r cyfarfod cyntaf gael ei gynnal y flwyddyn nesaf.

Mynediad i bawb

“Dylai pawb fod yn gallu cael mynediad i’r system gyfiawnder, a dyna pam y bydd ein gwasanaethau digidol bob amser yn cynnig opsiwn iaith Gymraeg,” meddai’r Arglwydd Bellamy.

“Mae cydweithio’n allweddol er mwyn gwella’r system ymhellach, ac rwy’n dal yn ymroddedig i gydweithio â’r Senedd, yn wir â’r holl lywodraethau datganoledig, i sicrhau bod gan bawb fynediad gwell at gyfiawnder.”

Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am system gyfiawnder Cymru a Lloegr gyda’i gilydd, tra bod cyfiawnder yn faes sydd wedi’i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.