Cafodd 10,500 o gwynion eu gwneud i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd Cymru rhwng Ebrill a Medi eleni.
Mae hynny’n gyfystyr â 6.84 o gwynion i bob 1,000 o bobol sy’n byw yng Nghymru.
Dyma’r tro cyntaf i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gyhoeddi ystadegau ynglŷn â chwynion i’r byrddau iechyd.
Mae’r data’n dangos bod 28% o’r cwynion yn ymwneud â thriniaethau ac asesiadau clinigol, 18% yn gysylltiedig ag apwyntiadau, ac 17% yn ymdrin â materion cyfathrebu.
Dros y cyfnod, cafodd 9,700 o’r cwynion eu cau, a 76% o’r rheiny o fewn y targed o 30 diwrnod.
‘Gwella gwasanaethau’
Pan fydd pobol yn anhapus am y ffordd mae’r cwynion yn cael eu trin gan y byrddau iechyd, maen nhw’n gallu eu trosglwyddo i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Rhwng Ebrill a Medi eleni, fe wnaeth yr Ombwdsmon dderbyn ychydig dan 500 o gwynion yn ymwneud â’r byrddau a’r ymddiriedolaethau iechyd.
O fewn yr un cyfnod, fe wnaeth yr Ombwdsmon gau 413 o achosion, gan ddarganfod fod rhywbeth wedi mynd o’i le ac ymyrryd yn 28% o’r achosion hynny.
Dywed Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ei bod hi’n falch o gyhoeddi’r data am gwynion i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd Cymru am y tro cyntaf.
“Mae gweld y wybodaeth hon yn helpu cyrff cyhoeddus i wella’r ffordd maen nhw’n darparu gwasanaethau, yn hybu tryloywder, ac yn dangos y lefel o wasanaeth maen nhw’n ei chynnig i’r cyhoedd,” meddai.
‘Data yw dechrau’r stori’
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus ers 2019 i helpu nhw i deimlo’n hyderus am y ffordd maen nhw’n mynd i’r afael â chwynion,” meddai Matthew Harris, Pennaeth Safonau Cwynion yr Ombwdsmon.
“Rhaid mai data yw dechrau’r stori, ac mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi ffyrdd newydd a gwell i ni ddisgrifio’u perfformiad.”