Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i gorff yng Ngheredigion.

Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am ddyn oedd ar goll yn ardal Tal-y-bont.

Nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol hyd yn hyn ond dywedodd llefarydd bod teulu’r dyn wedi cael gwybod ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion.