Does dim awydd am ragor o ddatganoli yng Nghymru, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, wrth iddyn nhw ymateb i adroddiad Comisiwn Gordon Brown.

Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi adroddiad ar ddyfodol y Deyrnas Unedig, ac un o 40 pwynt yr adroddiad yw datganoli rhagor o bwerau i Gymru.

Mae’r adroddiad yn argymell datganoli cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf yn unig, er bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi dweud o’r blaen eu bod nhw’n cefnogi datganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd, a sefydlu awdurdod yng Nghymru.

Mae’r tro pedol rhannol yn dangos “dirmyg y Blaid Lafur ganolog at yr unig lywodraeth mae’n ei rhedeg ar hyn o bryd”, meddai Liz Saville Roberts.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi cefnogi datganoli plismona a chyfiawnder, yn ogystal ag Ystad y Goron a darlledu.

Ond dydy Ystad y Goron na darlledu ddim yn cael sylw yn adroddiad Gordon Brown.

“Does dim awydd mawr yng Nghymru am ddatganoli rhagor o bwerau i’r Senedd,” meddai Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y Cyfansoddiad.

“Mae gan Gymru’r pwerau eisoes sydd eu hangen arni i gyflwyno economi well, gwell ysgolion a gwell ysbytai ond yn drist iawn, mae’r Blaid Lafur wedi methu’n syfrdanol â’u defnyddio nhw i wireddu’r amcanion hynny.

“Yn hytrach na’u hobsesiwn am botsian gyda’r cyfansoddiad, dylai’r Blaid Lafur fod yn defnyddio’r pwerau presennol sydd ganddi i wella bywydau pobol yng Nghymru.”

Adroddiad Gordon Brown yn “siom” i Gymru, medd Liz Saville Roberts

Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn lladd ar Lafur am gefnu ar ddatganoli cyfiawnder i Gymru

Yr Undeb “dan fwy o fygythiad nawr nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes hir”

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn ymateb i Gomisiwn Gordon Brown ar ddyfodol y Deyrnas Unedig