Mae Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, wedi lleisio ei gwrthwynebiad i gynlluniau gafodd eu cyflwyno mewn adroddiad newydd sydd unwaith eto yn argymell cau ysgolion Cwm Tawe.

Ar Hydref 20 y llynedd – yn dilyn ymgyrch gyhoeddus a dadl ddwys a welodd gynghorwyr cymunedau Cwm Tawe’n pledio’n angerddol ar ran eu trigolion – cymeradwyodd Cabinet blaenorol Cyngor Castell-nedd Port Talbot, pan oedd Llafur yn arwain y cyngor, gynnig i gau Ysgol Gynradd Alltwen, Ysgol Gynradd Godre’rgraig ac Ysgol Gynradd Llangiwg a sefydlu ysgol enfawr (super-school) 3-11 newydd ym Mhontardawe.

Er gwaethaf ymateb hynod negyddol mewn ymgynghoriad cyhoeddus gan y cymunedau gafodd eu heffeithio, penderfynodd yr awdurdod oedd yn cael ei redeg gan Lafur ar y pryd fwrw ymlaen â’u cynlluniau.

Yn y misoedd dilynol, parhaodd y gymuned gyda’u protest a chafodd rhieni o fewn y gymuned eu cefnogi gan fudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg, grŵp sy’n ymgyrchu dros addysg cyfrwng Cymraeg, pan lansion nhw adolygiad barnwrol ar y sail na chynhaliodd y Cyngor asesiad o’r effaith i addysg Gymraeg yn yr ardal – hepgoriad a olygodd fod yr ymgynghoriad wedi bod yn un anghyfreithlon.

Fe lwyddodd yr adolygiad barnwrol.

Adolygu’r penderfyniad

Fis Mai eleni, collodd Llafur reolaeth ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot ac ymrwymodd y glymblaid newydd, oedd yn cynnwys cynghorwyr Annibynnol a Phlaid Cymru, gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd, i adolygu’r penderfyniad.

Bu aelodau’r Pwyllgor Craffu Cabinet a Chabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ystyried adroddiad gafodd ei gyflwyno gan y Gyfarwyddiaeth Addysg – oedd yn cynnwys nifer o opsiynau – er bod swyddogion yn dal i argymell cau ysgolion.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion yn agor heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 5) ac yn para tan Ionawr 24, a bydd yr ymatebion yn cael eu hadrodd i’r Cabinet ym mis Chwefror 2023.

“Mae’n siomedig gweld bod y cynnig gwreiddiol yn parhau i gael ei gynnig fel opsiwn oherwydd penderfyniad y Cyngor Llafur blaenorol, er i hyn gael ei wrthod yn aruthrol gan y cymunedau yr effeithiwyd arnynt yn ystod yr ymgynghoriad cyntaf ac yn y blwch pleidleisio fis Mai diwethaf,” meddai Sioned Williams, un o drigolion Alltwen a chefnogwr ymgyrch Achub ein Hysgolion.

“Mae’n rhaid gwrthod y cynnig hwn os yw opsiynau eraill ar gyfer y tair ysgol am gael eu hystyried gan y Cyngor newydd felly byddwn yn annog pobol i gynnig eu syniadau.

“Mae strategaeth ddrafft cyfranogiad y cyhoedd y Cyngor – a gyflwynwyd gan swyddogion ar yr un diwrnod â’r adroddiad ysgolion – yn pwysleisio pwysigrwydd democratiaeth leol a’r angen i wrando a gweithio gyda chymunedau i wynebu heriau newydd gyda’n gilydd.

“Nid yw cynnal ymgynghoriad dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn ddelfrydol, ond er mwyn aros yn driw i’r gwerthoedd a’r ysbryd y mae’r Cyngor hwn yn eu harddel, rhaid inni gael ymgynghoriad ystyrlon gyda chyfleoedd digonol i’r cyhoedd adolygu, ystyried, dadlau, ac ymateb i yr holl gynigion a gyflwynir, nid dim ond y rhai a ffefrir gan swyddogion.

“Bydd y penderfyniad hwn yn ail-lunio tirwedd addysgol Cwm Tawe ac yn cael effaith sylweddol ar rieni, plant, a’r gymuned ehangach. Unwaith eto, byddaf yn lleisio fy ngwrthwynebiad i’r ysgol enfawr a byddaf yn cefnogi archwilio gwahanol opsiynau ar gyfer pob cymuned ysgol.

“Rhaid blaenoriaethu disgyblion Ysgol Godre’rgraig sydd ar hyn o bryd mewn adeiladau dros dro i ffwrdd o’u cymuned yn y cynlluniau hyn.

“Rwy’n annog pobol i fynegi eu barn drwy’r ymgynghoriad.

“Rhaid i lais ein cymunedau gael ei glywed ac rwy’n hyderus y bydd yn cael ei wrando arno’r tro hwn.”

Ymateb i bryderon a chwestiynau

“Mae rhai wedi awgrymu y byddai unrhyw symud oddi wrth y cynnig gwreiddiol a gyflwynwyd gan Lafur yn peryglu cyllid, ac yn amddifadu’r gymuned o gyfleusterau ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, a phwll nofio newydd,” meddai Sioned Williams wedyn, wrth ymateb i bryderon a chwestiynau mae rhai wedi’u codi, megis y £22m a gafodd ei gymeradwyo, cynnwys uned ASD a phwll nofio.

“Ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir bod cyllid ar gael ar gyfer adnewyddu adeiladau presennol, a gallai uned arbenigol gael ei hymgorffori mewn cynlluniau ar gyfer ysgol newydd neu ysgol wedi’i hadnewyddu, nid dim ond ar gyfer ysgol enfawr.

“O ran y pwll nofio, rydym i gyd yn gwybod nad yw’r pwll presennol ym Mhontardawe wedi derbyn buddsoddiad digonol dros y blynyddoedd.

“Ond rwy’n deall y gall y Cyngor gysylltu â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig am wahanol gronfeydd cyllid i gael pwll newydd.”