Bydd yr arfer o werthu compost mawn yn dod i ben yng Nghymru yn dilyn ymgynghoriad ar y mater.

Mae’r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus sy’n dangos bod 92% o ymatebwyr Cymru’n cefnogi gwaharddiad cyffredin ar werthu mawn ar gyfer garddio.

Roedd Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi bod yn galw am waharddiad, a dywedodd Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu’r elusen wrth golwg360 ychydig fisoedd yn ôl y byddai gwaharddiad yn “gam bach arall” i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Er nad oes echdynnu mawn yng Nghymru ar hyn o bryd, bydd y cyhoeddiad heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 5) yn amddiffyn mawnogydd Cymru yn y dyfodol.

Mawndiroedd yw’r storfeydd carbon mwyaf yn y Deyrnas Unedig, ac maen nhw’n cefnogi sawl cynefin a rhywogaeth, ynghyd â dal llawer iawn o ddŵr.

Pan fydd mawn yn cael ei echdynnu, mae’r carbon sy’n cael ei storio y tu mewn i’r gors yn cael ei ryddhau fel carbon deuocsid, gan gyfrannu at newid hinsawdd.

‘Gwahaniaeth gwirioneddol’

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y gwaharddiad yn dod ag allyriadau nwyon tŷ gwydr i ben o echdynnu a defnyddio mawn yn ddomestig a bydd yn allweddol wrth gyrraedd eu targedau Sero Net.

“Mae ein mawnogydd yn eiconig, ac fe fydd y cyhoeddiad heddiw yn allweddol yn y gwaith o’u diogelu a’u hadfer ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac yn cefnogi gwaith Rhaglen Weithredu Genedlaethol Mawnogydd,” meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru.

“Mae allyriadau carbon deuocsid o echdynnu mawn yn cael effaith ar newid hinsawdd a bydd cyflwyno gwaharddiad ar fanwerthu mawn er mwyn garddwriaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Dangosodd yr ymgynghoriad gefnogaeth gref i wahardd gwerthu mawn yng Nghymru a byddwn nawr yn gweithio i weithredu gwaharddiad cyn gynted ag y bydd hynny’n ymarferol bosib.”

Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd compost mawn

Cadi Dafydd

“Dylid bod wedi gwneud hyn ddegawdau yn ôl, mae’n esiampl arall o ddiwydiant yn llusgo’u traed,” medd Cyfeillion y Ddaear Cymru