Mae Liz Saville Roberts yn dweud bod adroddiad Gordon Brown ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn destun “siom” i Gymru, ac mae hi wedi beirniadu’r Blaid Lafur am gefnu ar ddatganoli cyfiawnder.

Mae hi’n dweud bod adroddiad cyn-Brif Weinidog Llafur y Deyrnas Unedig ar ddyfodol cyfansoddiadol yr Undeb yn “ddi-hyder”.

Mae’r adroddiad yn argymell datganoli cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf yn unig, er bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi dweud o’r blaen eu bod nhw’n cefnogi datganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd, a sefydlu awdurdod yng Nghymru.

Mae’r tro pedol rhannol yn dangos “dirmyg y Blaid Lafur ganolog at yr unig lywodraeth mae’n ei rhedeg ar hyn o bryd”, meddai Liz Saville Roberts.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi cefnogi datganoli plismona a chyfiawnder, yn ogystal ag Ystad y Goron a darlledu.

Ond dydy Ystad y Goron na darlledu ddim yn cael sylw yn adroddiad Gordon Brown.

‘Cymryd Cymru’n ganiataol’

“Mae’r adroddiad hwn yn destun siom i Gymru,” meddai Liz Saville Roberts.

“Y neges gan Gordon Brown i bobol Cymru: os ydych chi eisiau democratiaeth sydd â’r pwerau i wneud jobyn go iawn – pleidleisiwch dros Blaid Cymru.

“Trwy gynnig mwy o bwerau i’r Alban na Chymru, mae Llafur yn dangos unwaith eto gymaint maen nhw’n edmygu’r Alban dan reolaeth yr SNP tra eu bod nhw’n cymryd Cymru dan reolaeth Llafur yn ganiataol.

“Mae’r Alban yn cael ei gwobrwyo tra bod Llafur yn fodlon bod pwerau tameidiog yng Nghymru.

“Nid yn unig nad yw’r adroddiad hwn yn mynd yn ddigon pell, ond mae hefyd yn cefnu ar addewidion blaenorol Llafur – roedd maniffesto Llafur yn 2017 wedi addo datganoli plismona i Gymru.

“Fe wnaeth Comisiwn Thomas Llywodraeth Lafur Cymru argymell y dylid datganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd, ac y dylid creu awdurdod cyfreithiol i Gymru.

“Dydy’r adroddiad di-hyder hwn ddim ond yn cynnig pwerau tameidiog tros gyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf, gan ddangos lefel y dirmyg sydd gan y Blaid Lafur ganolog at yr unig lywodraeth mae’n ei rhedeg ar hyn o bryd.

“Mae tanseilio’u cydweithwyr Llafur yng Nghymru hefyd yn codi cwestiynu ynghylch a fyddai Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig fyth yn cyflwyno argymhellion Comisiwn Cyfansoddiadol Annibynnol Llywodraeth Cymru go iawn.

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cefnogi polisi Plaid Cymru o ddatganoli pwerau tros Ystad y Goron.

“Mae’r adroddiad hwn yn methu â sôn am y pwerau hyn hyd yn oed, gan drin Cymru unwaith eto fel pe bai’n llai haeddiannol na’r Alban.”

‘Gwneud dim i newid anghydraddoldebau sylfaenol’

Yn ôl Liz Saville Roberts, “dydy’r adroddiad hwn yn gwneud dim i newid anghydraddoldebau sylfaenol y Deyrnas Unedig”.

“Er gwaethaf addewidion annelwig o roi’r un statws i aelodau’r Senedd a Senedd yr Alban ag sydd gan Aelodau Seneddol [San Steffan], mae’r adroddiad hefyd yn ailymrwymo i’r egwyddor o Oruchafiaeth Seneddol,” meddai.

“Cyhyd ag y bydd yr egwyddor sylfaenol yn bod, bydd y Senedd yn parhau’n eilradd i San Steffan.

“Er bod Llafur yn honni mai dyma’r trosglwyddiad grym mwyaf oddi wrth San Steffan, dydy hi’n amlwg ddim [yn cael ei drosglwyddo] i Gymru.”

Yr Undeb “dan fwy o fygythiad nawr nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes hir”

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn ymateb i Gomisiwn Gordon Brown ar ddyfodol y Deyrnas Unedig