Wrth ymateb i Gomisiwn Gordon Brown ar ddyfodol y Deyrnas Unedig, mae Mark Drakeford yn rhybuddio bod dyfodol yr Undeb “dan fwy o fygythiad nawr nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes hir”.
Bydd y Comisiwn yn edrych ar ffyrdd o ailstrwythuro tirlun economaidd a gwleidyddol y Deyrnas Unedig.
Ymhlith y cynlluniau dan ystyriaeth mae cael gwared ar Dŷ’r Arglwyddi a chyflwyno haen etholedig o gynrychiolwyr o bob gwlad yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r Comisiwn hefyd eisiau glanhau gwleidyddiaeth yn wyneb llygredd ymhlith aelodau seneddol, creu Prydain Newydd er mwyn codi safonau byw mewn ardaloedd difreintiedig a rhoi mwy o rym yn nwylo awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau lleol.
Byddai’r hawl i dderbyn gofal iechyd yn seiliedig ar angen yn hytrach na’r gallu i dalu yn dod yn rhan o hawliau cymdeithasol sydd wedi’u gwarchod.
Byddai clystyrau diwydiannol rhanbarthol yn cael eu creu fel bod trefi, dinasoedd ac ardaloedd eraill yn cydweithio o fewn strategaeth economaidd ar y cyd, gan alluogi meiri ac arweinwyr lleol i arwain ar y gwaith.
Byddai tua 50,000 o swyddi’r Gwasanaeth Sifil yn cael eu symud allan o Lundain, a byddai mwy o bwerau datganoledig ac arian i’w reoli yn cael eu rhoi i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Byddai Cymru hefyd yn cael pwerau newydd ym maes cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf, tra byddai hawliau Aelodau o’r Senedd yn cael eu hymestyn yn yr un modd â chynrychiolwyr datganoli yn yr Alban.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae bwriad i adfer a chryfhau datganoli.
Byddai’r cynlluniau oll yn galw am fwy o gydweithio rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
‘Esgeulustod’
“Mae undeb y Deyrnas Unedig dan fwy o fygythiad nawr nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes hir, o ganlyniad i weithredoedd – ac esgeulustod – un Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig ar ôl y llall,” meddai Mark Drakeford.
“Dw i eisiau diolch i Gordon Brown am yr holl waith mae e wedi’i wneud ar yr adroddiad amserol, cynhwysfawr hwn a’r set o argymhellion ar gyfer dyfodol y Deyrnas Unedig.
“Dw i’n ddiolchgar iawn am yr ymgysylltu gawsom wrth ddatblygu’r adroddiad hwn.
“Llafur yw’r blaid tros ddatganoli ac mae’r adroddiad hwn yn dangos mai Llafur yn unig sy’n meddwl ar frys am ddyfodol y Deyrnas Unedig.
“Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno syniadau pwysig ynghylch sut mae modd datganoli a rhannu grym ar draws y wlad i greu undeb gryfach a Theyrnas Unedig gryfach.
“Dw i’n edrych ymlaen at weld yr argymhellion hyn yn cael eu gwireddu cyn gynted ag y bydd gennym ni Lywodraeth Lafur yn y Deyrnas Unedig.”
Ymgynghoriad eang
“Hoffwn ddiolch i’r Prif Weinidog Mark Drakeford, y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones a’r Barwn Murphy o Dorfaen am eu gwaith ar Gomisiwn Gordon Brown sydd wedi arwain at yr adroddiad a’r argymhellion sydd wedi’u cyhoeddi heddiw,” meddai Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur yn San Steffan.
“Fel mae Keir Starmer wedi’i ddweud, byddwn ni nawr yn ymgynghori’n eang ar yr argymhellion wrth iddyn nhw ddod yn rhan o’n cynllun ehangach i adeiladu economi lle caiff twf ei greu gan bawb ym mhob man ar gyfer pawb ym mhob man.”