Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi beirniadu’r oedi cyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno cynllun i gefnogi pobol sy’n byw oddi ar y grid i dalu eu biliau ynni.

Mae’r gweinidog yn San Steffan sy’n gyfrifol am gefnogaeth i dalu biliau ynni wedi cyhoeddi na fydd aelwydydd oddi ar y grid yn cael cymorth gyda’u biliau cynyddol tan o leiaf 2023.

Daw hyn er i aelodau seneddol ar draws Tŷ’r Cyffredin fod yn galw drwy gydol 2022 am weithredu ar frys.

Dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi clywed y dystiolaeth lawn ynghylch sut fydd aelwydydd sy’n cael eu taro waethaf gan y cynlluniau yn gallu cael hyd i’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ac mae hynny o ganlyniad i’r hyn sydd wedi’i alw’n gynllun “gor-gymhleth a llai na hael”.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi bod yn ymgyrchu tros gap prisiau ar olew gwresogi a phetrol LPG i leddfu’r pwysau ar y teuluoedd niferus yng nghefn gwlad Cymru sy’n byw oddi ar y grid.

Mae Jane Dodds, arweinydd y blaid, yn cynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru sy’n cwmpasu Ceredigion lle mae amcangyfrif nad yw 74% o eiddo ar y grid nwy.

55% yw’r ffigwr ym Mhowys, a 41% yn Sir Benfro.

Oedi

Cafodd yr oedi ei ddatgelu mewn llythyr gan Graham Stuart, y Gweinidog Ynni a’r Hinsawdd, at aelodau seneddol yr wythnos hon.

“Mae gan deuluoedd ar draws fy rhanbarth a rhannau gwledig eraill o Gymru angen mawr am gefnogaeth efo’u biliau ynni sydd heb gael eu gwarchod gan gap prisiau fel y rheiny ar y grid cenedlaethol,” meddai Jane Dodds.

“Am fisoedd ar fisoedd, fe wnaeth y Ceidwadwyr fethu â gweithredu a rŵan maen nhw’n oedi cyn gweithredu eto. Dydy hi ddim yn ddigon da, yn enwedig gan fod y mwyafrif o Aelodau Seneddol ac Aelodau Ceidwadol o’r Senedd yn cynrycholi ardaloedd gwledig.

“Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i alw am gyflwyno cap prisiau ar olew gwresogi a phetrol LPG.

“Mae cymunedau gwledig wedi’u cymryd yn ganiataol gan y Ceidwadwyr am yn rhy hir o lawer.”