Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae yna bellach fwy o bobol ddigrefydd na rhai crefyddol yng Nghymru, ac Androw Bennett, aelod o Ddyneiddwyr Cymru, sef elusen sy’n gweithredu ar ran pobol ddigrefydd, sy’n trin a thrafod y sefyllfa.


Mae Cymru bellach yn meddu ar fwy o bobol ddigrefydd nag o rai crefyddol, yn cynnwys Cristnogaeth. Mae ymhlith y gwledydd mwyaf digrefydd yn y byd, yn ôl data Cyfrifiad 2021 ac yn sylweddol fwy digrefydd na gweddill y Deyrnas Unedig.

Dengys y data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) bod nifer o bobl yn cyfrif eu hunain yn ddigrefydd wedi cynyddu o 32% i 46.5% rhwng 2011 a 2021. Mae’r digrefydd bellach yn fwy nag unrhyw grefydd yn y Cyfrifiad am y tro cyntaf erioed. Mae hyn er gwaetha’r ffaith bod y cwestiwn yn y Cyfrifiad ar grefydd yn cael ei gydnabod fel un unochrog ac arweiniol – mewn gwirionedd, mae Lloegr a Chymru, o ran hunaniaeth, cred ac ymarfer, hyd yn oed yn llai crefyddol nag y mae canlyniadau’r Cyfrifiad yn awgrymu.

Mae Cymru wedi meddu ar hanes hir a chryf o feddwl yn annibynnol ac fe ddatgysylltodd yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Lloegr dros ganrif yn ôl. Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 erbyn hyn yn arddangos bod amlygrwydd crefydd yn lleihau o flwyddyn i flwyddyn, gyda’r cynnydd yn y digrefydd a’r gostyngiad yng Nghristnogaeth yn gyflymach na rhwng 2001 a 2011.

Cyfrifiad unochrog

Mae’r canlyniadau yn parhau i dan-gyfrif y nifer o bobol ddigrefydd. Mae hyn oherwydd bod y cwestiwn nid yn unig yn ddewisol, ond hefyd yn defnyddio geiriad arweiniol (“Beth yw eich crefydd?”) sydd wedi hen ddangos y tueddiad i gynyddu’r nifer o bobol sydd yn dewis blwch crefyddol, er nad ydynt yn credu, ymarfer, neu weld eu hunain yn perthyn i grefydd. Maent yn gwneud hyn oherwydd eu bod wedi eu bedyddio, oherwydd bod eu rhieni yn/wedi bod yn Gristnogion, neu oherwydd y buont yn mynychu ysgol Gristnogol. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cydnabod hyn eu hunan. I’r gwrthwyneb, daeth arolwg blynyddol y British Social Attitudes i’r casgliad yn 2020 bod 53% o oedolion Prydeinig ddim yn perthyn i unrhyw grefydd, gydag ond 37% yn Gristnogion.

Ynghyd â hyn, dangosodd arolwg gan Humanists UK yn 2019 bod 29% o oedolion Prydeinig – bron hanner y digrefydd – yn arddel holl gredoau a gwerthoedd sylfaenol dyneiddiaeth i awgrymu bod symudiad sylweddol wedi digwydd yng ngwerthoedd poblogaidd, barn a hunaniaeth y Deyrnas Unedig yn ystod y 21fed Ganrif

Goblygiadau polisi

Tra bod y Senedd wedi ei greu yn sefydliad seciwlar, rheolir sawl agwedd ar gyfraith gwlad gan senedd San Steffan, ble mae 26 o esgobion Eglwys Lloegr yn eistedd yn ex officio.

Dylai Llywodraeth Cymru drin canlyniad y Cyfrifiad fel galwad i atal y fath wahaniaethu ble mae’n meddu ar y gallu, a galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddilyn ei arweiniad yn cynrychioli credoau pob dinesydd yn gyfartal.

Arwyddocâd i wleidyddion

Dyma sylwadau Cydlynydd Dyneiddwyr Cymru, Kathy Riddick, ar beth mae’r canlyniadau yn golygu i wleidyddion yng Nghymru: “Yn swyddogol, Cymru yw’r wlad fwyaf digrefydd yn y Deyrnas Unedig, ac er nad yw hynny yn ddatblygiad newydd, mae yn rhywbeth y mae’n hen bryd i wleidyddion yng Nghymru ei wynebu go iawn o ran y gyfraith a pholisi cyhoeddus.

“Diolch i’r drefn, wrth ddelio gyda’r newidiadau hyn, mae gan Gymru draddodiad cryf o gefnogi rhyddid crefyddol neu gredo, o’r datgysylltu eglwysig dros ganrif yn ôl hyd at sefydlu’r cwricwlwm mwyaf cynhwysfawr yn y Deyrnas Unedig y llynedd.

“Mae yna lawer o feysydd yng Nghymru ble mae bod yn ddigrefydd yn parhau i fod yn anfantais.

“O gaplaniaeth ysbytai, sy’n methu cynnwys cymorth digrefydd ar draws Cymru, i gyfarfodydd ysgolion lle mae gweithred o addoli Cristnogol yn parhau yn orfodol, ac mewn llawer o ddigwyddiadau cenedlaethol lle gwelir cynrychiolaeth gan grwpiau crefyddol a dim cynrychiolaeth gan y digrefydd.”

“Ddim yn annisgwyl” bod llai na hanner poblogaeth Cymru’n Gristnogion

Cadi Dafydd

“Mae’r ffaith bod cymaint o gapeli ac eglwysi wedi cau dros y degawd diwethaf yn dyst gweladwy i’r tueddiad,” medd y Parchedig Beti-Wyn James