Mae pôl piniwn gan ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn dangos bod y gefnogaeth i’r Blaid Lafur yng Nghymru ar ei huchaf ers 2012.

Partneriaeth ar y cyd rhwng ITV Cymru, Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a’r asiantaeth YouGov yw Barn Cymru.

Nod y pôl yw dangos credoau, agweddau a safbwyntiau pobol a chael adborth ar farn y cyhoedd yng Nghymru.

Cafodd 1,042 o bobol dros 16 oed yng Nghymru eu holi rhwng Tachwedd 25 a Rhagfyr 1.

Byddai 51% o bobol yng Nghymru’n pleidleisio tros Lafur mewn etholiad cyffredinol, sy’n gynnydd o 5% ers y pôl diwethaf ym mis Medi.

Mae’r pôl hefyd yn dangos bod rhai o gefnogwyr y Ceidwadwyr wedi symud tuag at Reform UK, y blaid gafodd ei sefydlu fel Plaid Brexit, gyda gostyngiad o bum pwynt canran yn y gefnogaeth i’r Torïaid.

Mae’r gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gostwng un pwynt canran i 4%, a Phlaid Cymru ddau bwynt canran i 13%.

Mae’r gefnogaeth i’r Blaid Werdd hefyd wedi codi un pwynt canran i 4%.

Mae’r pôl hefyd yn dangos bod Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi methu ennyn cefnogaeth pobol yng Nghymru, gyda 65% yn dweud nad ydyn nhw’n ymddiried ynddo i wneud y penderfyniadau cywir er lles Cymru.

Bwlch hanesyddol

“Mae’r pôl yn dangos bod y Ceidwadwyr yng Nghymru ar dir peryglus,” meddai Adrian Masters, Golygydd Gwleidyddol ITV Cymru.

“Er gwaetha’i awydd i gryfhau perthynas Llywodraeth y Deyrnas Unedig â Llywodraeth Cymru, mae’n amlwg bod pleidleiswyr eto i gael eu darbwyllo fod Rishi Sunak yn blaenoriaethu buddiannau Cymru.

“Mae Llafur yng Nghymru, ar y llaw arall, fel pe baen nhw’n mwynhau eu perfformiad cryfaf yn y polau piniwn ers degawd, fydd yn rhoi hwb i Keir Starmer a’i dîm wrth iddo geisio ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.”