A hithau’n Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed eleni, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am ddiwygio cyfraddau busnes er mwyn rhoi cymorth ychwanegol i fusnesau bach ledled Cymru.
Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn ymgyrch ddi-fasnach ar lawr gwlad sy’n tynnu sylw at lwyddiannau busnesau bach, ac sy’n annog cwsmeriaid i siopa’n lleol ac i gefnogi busnesau lleol yn eu cymunedau.
Mae’r diwrnod yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn cyntaf mis Rhagfyr bob blwyddyn.
‘Asgwrn cefn yr economi’
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, does dim digon yn cael ei wneud i gefnogi busnesau bach ledled Cymru ar ôl blynyddoedd digon anodd o ganlyniad i gytundebau masnach ar ôl Brexit, a’r pandemig Covid-19.
Ymhlith y mesurau maen nhw’n galw amdanyn nhw mae diwygio cyfraddau busnes, gwella cyflymder a hygyrchedd band llydan, a chronfa i adfywio trefi.
“Busnesau bach ydy asgwrn cefn yr economi Gymreig,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
“Gyda thros 60% o gyflogaeth yng Nghymru’n cael ei darparu gan fusnesau bach a chanolig, nhw fydd yn gyrru ein hadferiad o’r pandemig.
“Am y rheswm hwn, mae’n gwbl hanfodol eu bod nhw’n cael y gefnogaeth iawn dros y blynyddoedd i ddod efo syniadau diriaethol.
“Byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n lleddfu pwysau cyfraddau busnes, yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, signal band llydan a ffonau symudol, ac yn sicrhau bod busnesau mawr ar-lein yn talu eu siâr.”
‘Diffyg syniadau’
“Mae diffyg syniadau yn y cytundeb Llafur-Plaid Cymru i gefnogi busnesau bach, ac mae’r Ceidwadwyr yn brysur o du Llundain yn tanseilio busnesau,” meddai wedyn.
“Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru fusnesau bach a swyddi ar frig ein hagenda.
“Yn fwyaf blaenllaw mae ein galwad i ddiwygio cyfraddau busnes.
“Yn dreth analog mewn oes ddigidol, mae cyfraddau’n rhoi mantais gystadleuol i gewri masnach ar-lein ac yn cosbi ein siopau lleol sydd yn cyflogi pobol leol ac yn talu eu holl drethi.
“Os yw’r weinyddiaeth Llafur-Plaid Cymru’n ystyried diwygio’r dreth gyngor, dylai diwygio cyfraddau busnes hefyd fod ar frig eu hagenda.
“Rydyn ni hefyd eisiau i’r Llywodraeth ystyried mwy o gefnogaeth ar gyfer cronfa adfywio trefi.
“Rydyn ni’n cynnig cronfa adfywio trefi gwerth £500m dros y bum mlynedd nesaf i fuddsoddi yn isadeiledd corfforol a digidol ein trefi.
“Mewn rhanbarthau gwledig fel fy un i, mae cysylltedd digidol yn dal yn rhwystr sylweddol i lwyddiant rhai busnesau bach.
“Mae hi hefyd yn bwysig cydnabod effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar nifer o fusnesau bach ledled Cymru.
“Mae rhwystrau masnachu a thâp coch cynyddol wedi gadael nifer yn ei chael hi’n anodd allforio i gwsmeriaid yn yr Undeb Ewropeaidd, gyda chostau biwrocratiaeth gynyddol yn eu rhoi nhw o dan anfantais gystadleuol o’u cymharu â chwmnïau yng Ngogledd Iwerddon a gwladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n parhau i alw am fynediad at farchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd, ochr yn ochr ag ailgyflwyno’r rhyddid i symud.
“Gallwn ni wneud mwy i gefnogi ein busnesau bach, does dim ond angen i chwaraewyr allweddol ganfod yr ewyllys wleidyddol i wneud hynny.”
‘Siopa’n lleol y Nadolig hwn’
Daw sylwadau Jane Dodds wrth i gwsmeriaid ar Ynys Môn gael eu hannog gan y Cyngor Sir i siopa’n lleol y Nadolig hwn er mwyn cefnogi trefi a’r Stryd Fawr.
Mae’r argyfwng costau byw yn parhau i effeithio ar nifer o fusnesau lleol ynghyd ag unigolion, teuluoedd a chymunedau.
Bydd siopa’n lleol y Nadolig hwn yn helpu i roi hwb angenrheidiol i nifer o siopau a busnesau lleol, meddai’r Cyngor Sir.
Fel rhan o’u hymgyrch i gefnogi busnesau lleol, mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gofyn i fusnesau lleol rannu eu cynigion Nadolig, eu syniadau anrhegion a’u cynnyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio’r hashnod #DoligMôn.
Bydd y rhain wedyn yn cael eu rhannu ar dudalennau @CroesoMon y Cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd meysydd parcio’r Cyngor yn Amlwch, Benllech, Caergybi a Llangefni am ddim i’w defnyddio ar ôl 10yb rhwng Rhagfyr 10-28 er mwyn annog pobol i siopa fwy mewn trefi ac ar y Stryd Fawr.
Mae parcio am ddim eisoes ar gael mewn meysydd parcio yn nhref Porthaethwy ac yn y ddau safle parcio a rhannu ar yr Ynys drwy gydol mis Rhagfyr a Ionawr o ganlyniad i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn cau Pont Borth.
Mae’r Cynghorydd Carwyn Jones, deilydd portffolio Datblygu Economaidd Cyngor Môn, yn cefnogi’r ymgyrch Dydd Sadwrn Busnesau Bach a’r neges siopa’n lleol.
“Mae siopau a busnesau lleol wedi cael amser caled dros y blynyddoedd diwethaf ac mae nifer yn parhau i’w chael yn anodd,” meddai.
“Rydym eisiau cefnogi busnesau lleol eleni yn fwy nag erioed.
“Byddai’n wych gweld cymuned Ynys Môn yn dod at ei gilydd i’w cefnogi – gan ddechrau’r penwythnos yma ar ddydd Sadwrn Busnesau Bach ac yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig.
“Mae gennym amrywiaeth rhagorol o fusnesau bach yma ar Ynys Môn ac mae’r dydd Sadwrn yma yn ddegfed penblwydd dydd Sadwrn Busnesau Bach, ymgyrch cenedlaethol er mwyn cefnogi a thynnu sylw at ein busnesau bach a dathlu popeth maent yn ei gyfrannu i’r economi leol ac i gymunedau.
“Mae gan ein busnesau bach ddigon o gynnyrch o safon ac maent yn daprau gwasanaethau rhagorol.
“Rwy’n annog pawb i grwydro’r Stryd Fawr, mwynhau’r gweithgareddau Nadoligaidd a phrynu’r anrheg Nadoligaidd unigryw hwnnw y gallwch ond ei brynu yma ar yr Ynys gan ein busnesau lleol.”