Mae Lois Nottingham, sy’n berchen busnes Cypcêcs Lois, yn dweud bod Marchnad Ogwen wedi bod yn “achubiaeth i rai ar ôl yr unigrwydd mae rhai wedi ei deimlo yn ystod cyfnod Covid.”
Fe gaiff y farchnad ei chynnal ar yr ail ddydd Sadwrn o bob mis yn Neuadd Ogwen, Bethesda, a bydd y nesaf ar Ragfyr 10.
Bydd cyflenwyr, crefftwyr a chynhyrchwyr lleol yr ardal yno, a bydd y stondinau ar agor i’r cyhoedd rhwng 9yb ac 1yp.
Ymysg yr eitemau ar gael yn y farchnad mae llysiau, bara, caws, cig, cacennau, jam, planhigion, cardiau, tecstilau, brodwaith, gemwaith a chelf.
Effaith Covid
Un fydd â stondin yn y farchnad yw Lois Nottingham, sydd â busnes o’r enw Cypcêcs Lois sydd yn gwerthu cacennau.
Wrth siarad â golwg360, dywed Lois Nottingham fod eraill yn dechrau busnesau coginio yn y cyfnod clo wedi rhoi straen ar fusnesau o’r fath oedd eisoes mewn bodolaeth.
“Yn bendant fe wnaeth Covid effeithio ar fusnes,” meddai.
“Yn ystod y cyfnod clo, fe ddechreuodd nifer fawr o bobol eu busnesau coginio eu hunain ac fe roddodd hynny straen ar fusnesau pawb oedd wedi bodoli ers blynyddoedd.
“Yn ogystal â hynny, roedd cynhwysion yn brin ac felly roedd bron yn amhosib derbyn archebion gan fod gymaint o ansicrwydd o amgylch bob dim.
“Ar y llaw arall, fe welodd pobol faint o waith sydd yn mynd i mewn i greu a chynnal busnes, ac roedd mwy yn gwerthfawrogi a chefnogi busnesau bach lleol.”
Effaith yr argyfwng costau byw
Mae pethau’n dirywio oherwydd yr argyfwng costau byw ac mae’n debyg nad ydym wedi gweld y gwir effaith eto.
“Mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio busnes ac yn gwaethygu pob mis,” meddai Lois Nottingham.
“Mae prisiau cynhwysion wedi cynyddu, sydd yn golygu bod fy mhrisiau i yn gorfod codi.
“Y broblem wedyn efo hynny ydi nad yw pobol yn gallu fforddio nac yn fodlon gwario gormod ar bethau sydd ddim yn cael eu cyfri fel rhywbeth angenrheidiol.
“Erbyn hyn, nid yw’n bosib cymryd archebion bach, oherwydd dydyn nhw ddim gwerth y gost.”
Nain yn pobi
Yn ôl Lois Nottingham, mae ei Nain wedi bod yn ddylanwad cryf ar ei doniau pobi cacen.
“Datblygodd fy niddordeb mewn coginio wrth wylio Nain yn y gegin a chael ei helpu i wneud cacennau i Taid,” meddai.
“Blynyddoedd wedyn, yn 2015, trïais yn y gystadleuaeth goginio yn Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen, ac fe gefais y wobr gyntaf am fy nghacennau.
“Yn anffodus erbyn hynny, roedd Nain yn dioddef o ddementia ac felly pan es i â’r cerdyn i’w ddangos iddi, doedd hi ddim yn cofio nac yn deall beth oedd o.
“Erbyn hyn, rwyf wedi llwyddo i ennill llawer mwy o wobrau gyda fy nghynnyrch, ac rwyf yn falch o ddweud fy mod i efo bocs yn llawn cardiau gwobrau rŵan hefyd.”
Hobi yn tyfu’n fusnes
Fel hobi y dechreuodd Lois Nottingham bobi cypcêcs, ond buan y datblygodd y busnes i rywbeth llawer mwy.
“Dechreuais fy musnes cypcêcs yn ôl yn 2012,” meddai.
“Hap a damwain llwyr oedd cychwyn y busnes.
“Roeddwn wedi bod yn pobi yn y gegin ac wedi creu set o gypcêcs, ac mi roddais lun ohonynt ar Facebook.
“O fewn hanner awr i’r llun fod i fyny ar y wefan, ges i neges gan dri pherson gwahanol yn gofyn a oeddwn yn eu gwerthu.
“Dywedais nad oeddwn gan mai dim ond chwarae o gwmpas oeddwn i, ac yna cefais gais gan ffrind i fy mam yn gofyn a y buaswn i’n darparu cypcêcs ar gyfer priodas ei merch.
“Ar ôl meddwl am y peth am hir, cytunais ac fe dyfodd y busnes o hynny.
“Cofrestrais gyda’r cwmnïau addas a dechrau gwerthu mewn ffeiriau lleol.
“Deng mlynedd yn ddiweddarach ac rwyf yn dal i redeg y busnes ond erbyn hyn, ar raddfa lawer iawn mwy.”