Does yna neb “gwell i ymateb i argyfwng ariannol na Rishi Sunak”, yn ôl David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru.
Mae economi’r Deyrnas Unedig yn wynebu amryw o heriau ar hyn o bryd, gyda chwyddiant yn 11.1%, tra bod Banc Lloegr wedi codi cyfraddau llog i 3% – sydd yn ei gwneud hi’n anoddach i’r Llywodraeth fenthyg arian.
Ond mae David TC Davies yn ffyddiog y bydd polisïau Rishi Sunak yn arwain at adferiad, ac mae’n rhagweld y bydd y Llywodraeth yn “cael gafael ar chwyddiant y flwyddyn nesaf”.
Roedd y gŵr sy’n cynrychioli etholaeth Mynwy yn San Steffan yn gefnogwr brwd i Rishi Sunak yn ystod y ras arweinyddiaeth yn erbyn Liz Truss dros yr Haf.
Ac er ei fod yn derbyn fod cyfnod cythryblus Liz Truss yn Brif Weinidog wedi gwneud pethau’n “anoddach” i’w holynydd, mae’n mynnu nad oes “unrhyw un gwell i ymateb i argyfwng ariannol na Rishi Sunak”.
“Mae o’n gwneud swydd sydd yn anoddach wrth gwrs,” meddai.
“Ond y pwynt yw, nid mini-budget Liz Truss sydd wedi creu’r problemau yn y farchnad, roedd y problemau yno yn barod.
“Mae’r problemau yno oherwydd ein bod ni wedi benthyg biliynau o bunnoedd er mwyn ymateb i’r pandemig covid.
“Felly pan wnaeth Liz Truss droi at y marchnadoedd a gofyn am fenthyg mwy o arian, fe gawson nhw eu dychryn ac fe gawson ni weld yn syth ei bod hi ddim yn bosibl menthyg arian ar y gyfradd llog isaf.
“Ac er bod hynny wedi achosi ansefydlogrwydd gyda’r bunt yn erbyn yr Ewro ac yn erbyn y Ddoler, mae bellach yn ôl i’r lefelau a welwyd cyn y mini-budget gan ein bod ni wedi cyhoeddi tro pedol ar bolisïau fel toriadau treth a benthyg.”
“Deall mwy am y sefyllfa nag unrhyw un”
“Mae’r marchnadoedd yn disgwyl sefydlogrwydd ac mae Rishi Sunak yn gallu darparu hynny,” meddai David TC Davies.
“Wrth gwrs mae gan Rishi gefndir ym myd cyllid, mae lot o brofiad gydag ef.
“A dw i’n gallu dweud, trwy’r holl bandemig covid roeddwn i’n gweithio fel is-weinidog ac fel chwip, ac roeddwn i’n cael fy nghynnwys yn rhai o’r cyfarfodydd rhwng gwahanol weinidogion.
“Ac er fy mod i yng nghefn yr ystafell, fel maen nhw’n dweud, pan roedd penderfyniadau’n cael eu cymryd dw i erioed wedi gweld gweinidog sy’n gallu cael gafael ar ddogfennau a phapurau technegol ac anodd mor gyflym â Rishi.
“Roedd pob un ohonom ni mewn sefyllfa ble’r oedden ni wedi cael papur yn llawn graffiau technegol iawn iawn.
“Roedd pob un ohonom ni wedi cael y ddogfen hanner awr cyn i’r cyfarfod ddechrau ac mae Rishi Sunak wedi mynd drwy’r holl beth ac wedi deall yr holl beth.
“Roedd o’n dyfynnu ohono ac yn gofyn am y gwahanol ystadegau a graffiau ac yn y blaen.
“Roedd hi’n glir i mi ei fod o’n deall mwy am y sefyllfa nag unrhyw un arall yn yr ystafell am y sefyllfa, gan gynnwys swyddogion o’r Trysorlys.
“Dyma’r math o ddyn sydd wrth y llyw ar hyn o bryd, mae o’n ddyn galluog iawn iawn a galla i ddim meddwl am unrhyw un gwell i ymateb i argyfwng ariannol na Rishi Sunak.
“Dw i’n gwybod fy mod i’n bias, yn amlwg, ond mae hynny yn wir.”
Y cyfweliad llawn gyda David TC Davies yn rhifyn yr wythnos yma o gylchgrawn Golwg