A hithau yn ddiwrnod Aids y Byd ddoe, mae un sydd â’r haint am bwysleisio fod pethau yn edrych llawer mwy addawol i ddioddefwyr HIV nac yr oeddent yn arfer gwneud.

Gyda thriniaeth, “ni allwch mewn unrhyw ffordd drosglwyddo’r firws” yn ôl Michael Lekes, dioddefwr HIV a dyn sy’n helpu eraill i ddygymod â HIV.

Serch hynny, mae rhai pobol sydd yn dioddef o HIV yn gwrthod triniaeth ac mae Michael  Lekes yn eu hannog i gymryd meddyginiaeth.

“Mae Diwrnod Aids y Byd ar y cyntaf o Ragfyr ac mae’n ddiwrnod i fyfyrio ar bobol rydyn ni wedi’u colli ond i fod yn bositif am y dyfodol i’r rhai sy’n byw gyda HIV,” meddai Michael Lekes.

“Gobeithiwn am y diwrnod pan fydd yna wellhad.

“Yn y cyfamser ni allai’r newyddion fod yn well.

“Os yw pobol sy’n byw gyda HIV yn cymryd eu meddyginiaeth yn gyson, bydd ganddynt lwyth firaol na ellir ei ganfod.

“Ni allwch mewn unrhyw ffordd drosglwyddo’r firws os nad oes modd canfod eich llwyth firaol.

“Ni allwch ei drosglwyddo trwy drosglwyddiad rhywiol, beichiogi neu trwy drallwysiadau gwaed.

“Er gwaethaf hyn, mae llawer o bobl sy’n byw gyda HIV ddim yn cymryd eu meddyginiaeth.

“Prif ffocws fy swydd yw helpu pobl i ymgysylltu â’u triniaeth HIV i gymryd eu meddyginiaeth, i fynd i’r clinig fel y gallant nid yn unig wella eu hiechyd presennol ond cynyddu eu disgwyliad oes.

“Bydd llawer o bobl sy’n byw gyda HIV yn cael bywydau hirach na pherson heb HIV oherwydd eu bod yn mynd at y meddyg yn fwy rheolaidd.

“Mae pethau’n cael eu dal a’u gwirio yn fuan.”