Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar y Blaid Lafur i gyfrannu £13,000 o’i arian ei hun yn rhodd i elusennau hawliau dynol.

Daw hyn ar ôl i gais rhyddid gwybodaeth gan y blaid ddatgelu fod trip y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, i Qatar wedi costio £13,007 i’r trethdalwr.

Ac mae cais rhyddid gwybodaeth ar wahân wedi dangos nad yw swyddfa Llywodraeth Cymru yn Qatar erioed wedi cael ei defnyddio i hyrwyddo hawliau dynol yn y wlad.

Roedd y penderfyniad i deithio i Qatar yn ddadleuol, gydag arweinydd Plaid Lafur y Deyrnas Unedig, Syr Keir Starmer, yn boicotio’r twrnament a’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o “ragrith”.

Ond wrth siarad yn Doha ar Dachwedd 20, dywedodd Mark Drakeford: “Rwyf yn parchu dadleuon sydd wedi eu gwneud gan bobol sydd wedi dewis peidio teithio.

“Yn y diwedd, daethom i’r casgliad na fyddai pobol yng Nghymru wedi dymuno gweld sedd i Gymru yn cael ei gadael yn wag.

“Mae wir yn gyfle arbennig iawn i hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd.”

Yn cyfeirio at y ffaith nad oedd Keir Starmer yn fodlon mynd i Qatar, dywedodd Mark Drakeford:

“Mae yna wahaniaeth yng nghyfrifoldeb rhywun sy’n Brif Weinidog cenedl sydd wedi llwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd.

“Mae hynny’n set wahanol o gyfrifoldebau i rai arweinydd yr wrthblaid.”

Sefyllfa hawliau dynol Qatar

Byth ers i FIFA gyhoeddi mai yn Qatar fyddai Cwpan y Byd 2022 yn cael ei gynnal, nôl yn 2010, mae yna ofidion mawr wedi bod am safonau hawliau dynol y wlad.

Mae llywodraethau, elusennau, ymgyrchwyr a chymdeithasau pêl-droed wedi lleisio pryderon am y nifer o weithwyr – nifer ohonynt yn dod o dramor – sydd wedi marw wrth i Qatar wario biliynau o ddoleri ar adeiladu stadia newydd sbon i gynnal gemau, tra bod yna hefyd ofidion am y ffordd mae’r wlad y trin aelodau o’r gymuned LHDTQ+.

Mae’r awdurdodau yn Qatar yn mynnu mai ond tair marwolaeth “sy’n gysylltiedig â gwaith” sydd wedi bod ar safleoedd adeiladu stadia ers i’r gwaith ddechrau yn 2014 – a 37 yn rhagor o farwolaethau oddi ar y safleoedd nad ydynt yn “gysylltiedig â gwaith”, tra bod y Goruchaf Bwyllgor sy’n rhedeg y wlad yn mynnu fod lles gweithwyr yn flaenoriaeth.

Fodd bynnag, mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod 15,000 o bobol oedd ddim yn ddinasyddion Qatari wedi marw yn y wlad rhwng 2010 a 2019.

Ond mae faint o’r marwolaethau hynny oedd yn gysylltiedig â gwaith – ac a oedd y gwaith hwnnw’n gysylltiedig â Chwpan y Byd – yn destun anghydfod, ac yn aneglur.

Mae ymgyrchwyr hawliau dynol yn dweud bod miloedd o farwolaethau wedi’u cofnodi, i bob pwrpas heb esboniad, oherwydd diffyg ymchwiliad.

Y llynedd, wnaeth y Guardian gyhoeddi bod 6,500 o weithwyr mudol o bum gwlad – India, Bangladesh, Pacistan, Sri Lanca a Nepal – wedi marw rhwng 2010 a 2020, gyda 69% o’r marwolaethau ymhlith gweithwyr Indiaidd, Nepali a Bangladeshi.

“Buddsoddiad dros hawliau dynol”

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds AS: “Mae’r cais rhyddid gwybodaeth hwn yn profi’r hyn rydyn ni wedi’i amau ers tro, fod Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu cytundebau buddsoddiad dros hawliau dynol yn Qatar.

“Mae yna gwestiwn hefyd a yw gwario £13,000 o arian trethdalwyr ar daith i ddau o weinidogion i Qatar yn werth da am arian, yn enwedig yn ystod argyfwng costau byw.

“Er mwyn gwneud yn iawn am helpu i gyfreithloni twrnament a adeiladwyd ar gam-drin hawliau dynol, rwyf nawr yn galw ar Blaid Lafur Cymru i roi £13,000 o gronfeydd eu plaid eu hunain i elusennau hawliau dynol.

“Rydw i hefyd yn ailadrodd galwadau fy mhlaid y dylid cau swyddfa Llywodraeth Cymru yn Qatar.

“Os nad yw’n gallu hyrwyddo hawliau dynol, gan gynnwys hawliau LHDTQ+ a hawliau gweithwyr, ochr yn ochr â gwerthoedd eraill ein gwlad, yna ni ddylai fod ar agor.”