Mae Pere Aragonès, Arlywydd Catalwnia, yn dweud nad yw’r iaith Gatalaneg “yn cael gwarchodaeth na chydnabyddiaeth” gan Lywodraeth Sbaen.

Daeth ei sylwadau ddydd Iau yn ystod araith gerbron Fforwm y Cenhedloedd Unedig ar Faterion Lleiafrifol yn Geneva, lle dywedodd fod agwedd Sbaen at yr iaith a’r ffaith eu bod nhw’n gwahaniaethu yn erbyn siaradwyr yn golygu ei bod hi bellach yn iaith leiafrifol.

Dywed Pere Aragonès na fyddai’r Gatalaneg, sydd â deg miliwn o siaradwyr, yn iaith leiafrifol oni bai ei bod hi wedi cael ei gwthio i’r cyrion mewn gwledydd fel Sbaen, yr Eidal a Ffrainc a rhanbarthau fel Valencia, yr Ynysoedd Balearaidd, darn o diriogaeth Aragon, gogledd Catalwnia yn ne Ffrainc a dinas Alghero ar ynys Sardinia yn yr Eidal.

Mae yna “gonsensws clir” yng Nghatalwnia i “atal yr iaith Gatalaneg rhag cael ei disodli gan y Sbaeneg”, meddai, gan gyfeirio at rai o’r mesurau sydd wedi’u cyflwyno er mwyn ceisio gwarchod yr iaith, gan gynnwys y Gatalaneg fel iaith addysg.

Mae deddfwriaeth wedi’i chyflwyno er mwyn gweithredu yn erbyn effaith bosib dyfarniad llys sy’n mynnu bod rhaid i 25% o wersi yng Nghatalwnia fod trwy gyfrwng y Sbaeneg.

Maes arall sy’n cael cryn sylw ar hyn o bryd yw’r sector clyweledol, wrth i’r awdurdodau geisio canfod ffyrdd o warchod y Gatalaneg yn y gofod digidol fel nad yw’n gwahaniaethu yn ei herbyn.

Dyfodol y Gatalaneg fel iaith gymunedol

Mae Pere Aragonès wedi mynegi pryderon am ddyfodol y Gatalaneg, wrth i un arolwg ar ôl y llall ddangos tranc yr iaith fel iaith gymunedol.

Dywed ei bod hi’n hanfodol “gwarchod pob iaith fel ffordd o warchod hawliau cyfartal i bawb, bod honno’n iaith leiafrifol neu beidio.

Dechreuodd ei araith gerbron y Cenhedloedd Unedig yn y Gatalaneg cyn troi i’r Saesneg, gan egluro bod Catalwnia’n “genedl fodern, ddatblygedig a llewyrchus” sydd â iaith a diwylliant sy’n allweddol wrth sicrhau a hybu undod y genedl.

Daw’r araith ddyddiau’n unig ar ôl cyfarfod brys i drafod y defnydd o’r iaith Gatalaneg, pan gyflwynodd Pere Aragonès gant o fesurau er mwyn ceisio cryfhau’r iaith mewn addysg ac iechyd ac yn y sector clyweledol.

Pere Aragonès

Llywodraeth Catalwnia am geisio rhoi hwb i’r defnydd o’r iaith Gatalaneg

Ysgolion, canolfannau meddygol a’r sector clyweledol fydd yn cael y flaenoriaeth wrth gyhoeddi 100 o fesurau