Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod ymateb Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, i argymhellion ymchwiliad i Asedau Cymunedol yn gymysg.
Daeth sawl argymhelliad o’r adroddiad, fel a ganlyn:
- cymryd camau i sefydlu comisiwn i sbarduno ffordd newydd o feddwl am berchnogaeth gymunedol ar dir ac asedau yng Nghymru
- gwneud trefniadau ar gyfer rhoi ystyriaeth i p’un a ddylai grwpiau cymunedol sy’n bodloni meini prawf y cytunwyd arnynt allu cychwyn y broses o drosglwyddo asedau eu hunain.
- ei gwneud yn gliriach fod y broses drosglwyddo yn berthnasol i bob corff cyhoeddus, nid llywodraeth leol yn unig.
- ystyried sut mae modd eu cryfhau i roi eglurder a sicrwydd i awdurdodau lleol ar asesu buddion gwerth cymdeithasol trosglwyddo ased.
- sefydlu pecyn cymorth wedi’i gydgysylltu i gefnogi cymunedau sy’n ceisio prynu neu brydlesu tir neu asedau.
- sefydlu rhwydwaith cymheiriaid trosglwyddo asedau i alluogi grwpiau cymunedol i hwyluso rhannu profiadau ac arfer gorau â’i gilydd.
- sefydlu cronfa benodol i Gymru ar gyfer prosiectau tai cymunedol sy’n debyg i’r cronfeydd sydd ar gael yn Lloegr a’r Alban.
Ymateb
“Mae Llywodraeth Cymru yn gryf o blaid cymunedau yn rheoli asedau pan fydd yn briodol iddynt wneud hynny ac mae digon o gefnogaeth yn lleol,” meddai Llywodraeth Cymru, wrth ymateb i’r adroddiad.
“Gwnaethom weld pwysigrwydd penodol yr asedau hyn yn ein cymunedau yn ystod y pandemig.
“Rydym yn cydnabod bod yr argyfwng costau byw rydym yn ei wynebu ar hyn o bryd yn her arall i gymunedau a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus.
“Mae’n dda gennym weld bod yr adroddiad yn cydnabod bod asedau sy’n cael eu rheoli gan gymunedau’n gallu arwain at fanteision sylweddol.
“Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Newid Hinsawdd yn arwain ein hymrwymiad i atgyfnerthu ein gwaith ymgysylltu â chymunedau a dysgu o’r arferion gorau.
“Ym mis Gorffennaf eleni gwnaethom gyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn amlinellu eu bwriadau yn y maes hwn.
“Rydym eisoes wedi sefydlu Bwrdd Trawslywodraethol ar Bolisi Cymunedau, ac wedi dechrau gweithio ar sut rydym yn gallu atgyfnerthu’r ffordd rydym yn gweithio gyda chymunedau.
“Mae cwmpas y gwaith hwn yn ehangach o lawer na’r gwaith o gefnogi’r asedau eu hunain – mae hefyd yn cydnabod arwyddocâd yr asedau hynny wrth rymuso ein cymunedau.
“Mae adeiladau cymunedol a mannau gwyrdd yn darparu ffocws pwysig ar gyfer cynnal cymunedau a’u llesiant.
“Mae’r Pwyllgor wedi herio pa mor effeithiol yw’r trefniadau presennol wrth rymuso cymunedau Cymru i gaffael neu reoli asedau a gwasanaethau cyhoeddus o fewn y cymunedau hynny.
“Rydym wedi cyhoeddi polisi a chanllawiau ar gyfer trosglwyddo asedau cyhoeddus i grwpiau cymunedol.
“Mae gan rai awdurdodau lleol eu polisïau eu hunain – ond nid pob un; a chydnabyddir bod rhai yn dangos arferion da – ond nid pob un.
“At ei gilydd ystyrir bod y dull hwn yn cael ei reoli o’r brig i lawr, a honnir ei fod yn aneffeithiol wrth rymuso cymunedau ar lawr gwlad.
“Nid ydym yn cytuno â’r asesiad hwn yn llwyr, ond rydym yn cydnabod bod anghysondebau yn y ffordd mae’r polisi hwn yn cael ei weithredu, a bod gennym rywfaint o ddylanwad yn y maes hwn.”
Buddsoddi mewn cymunedau’
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am:
- hawl i gartre’n lleol
- cynllunio ar gyfer anghenion lleol
- grymuso cymunedau
- blaenoriaethu pobol leol
- rheoli’r sector rhentu
- cartrefi cynaliadwy
- buddsoddi mewn cymunedau
“Mae gyda ni gynigion ar gyfer Deddf Eiddo sy’n cynnwys grymuso a buddsoddi mewn cymunedau,” meddai Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith.
“Mae’n galonogol felly bod y Gweinidog wedi cytuno i argymhellion i ystyried diweddaru canllawiau ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol a deddfu i rymuso cymunedau.
“Ond camau bach yw’r rhain a bydd Comisiwn newydd yn cael ei sefydlu i ystyried nifer o’r pethau hyn.
“Fydd dim modd deddfu yn ystod tymor y Senedd yma felly.
“Roedden ni’n siomedig o ddarllen hefyd bod y Gweinidog yn gwrthod y syniad o gronfa benodol i Gymru ar gyfer prosiectau tai cymunedol.
“Mae cronfeydd tebyg ar gael yn Lloegr a’r Alban, a heb gyllid bydd yn fwy anodd i grwpiau cymunedol wneud defnydd o unrhyw newidiadau i ganllawiau neu ddeddf newydd sydd yn rhoi mwy o gyfleoedd.”
Deddf Eiddo
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi diweddaru eu cynigion Deddf Eiddo, sydd bellach yn rhoi mwy o bwyslais a mwy o rym i gymunedau.
“Mae ein Deddf Eiddo ni yn cyflwyno Hawl Gymunedol i Brynu er mwyn i grwpiau cymunedol brynu tir ac eiddo ar gyfer defnydd cymunedol; yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gynnig benthyciadau a grantiau neu fuddsoddi mewn mentrau dan arweiniad y gymuned; ac yn rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol fuddsoddi mewn cronfa i gynnig benthyciadau llog isel i bobl leol a mentrau cymunedol i brynu cartref,” meddai.