Mae trigolion pryderus Gwynedd a Môn yn dod ynghyd ar safle’r awyrlu yn y Fali heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 2) i dynnu sylw at y cyswllt uniongyrchol rhwng presenoldeb BAE Systems, sy’n allforio arfau i Saudi Arabia.
Bydd yn nodi cychwyn ymgyrch deufis i hysbysu dinasyddion Cymru o’r rhyfeloedd byd-eang sy’n cychwyn ar stepen ein drws gyda’r cyflenwad o arfau a systemau o Gymru a gwledydd eraill y Deyrnas Unedig ar gyfer y rhyfel yn Yemen.
Mae Cymdeithas y Cymod yng Nghymru, ynghyd â grwpiau hawliau dynol lleol eraill yn cefnogi’r Ymgyrch yn Erbyn y Fasnach Arfau yn eu hachos cyfreithiol i herio Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yn ôl ymchwil gan yr Ymgyrch yn Erbyn y Fasnach Arfau, mae nifer o safleoedd yng Nghymru sy’n cynhyrchu arfau a systemau sydd yn cael eu defnyddio i fomio Yemen, gan gynnwys BAE Systems yn y Fali; Glascoed, Brynbuga; Raytheon ym Mrychdyn; FAUN Trackway yn Llangefni; ac Airbus yng Nghoedcernyw, Casnewydd.
Mae cysylltiad BAE yn mynd tu hwnt i gyflenwi cyfarpar.
Mae gan BAE 6,500 o staff yn Saudi Arabia sy’n cefnogi gallu gweithredol lluoedd arfog Saudi i ymosod ar Yemen.
Yn ôl yr ymgyrchydd Arabaidd Ameen Nemer, oedd yn bresennol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol BAE Systems yn 2019, “i bobol yn Saudi Arabia a Yemen, mae’n amhosibl gwahaniaethu rhwng y bobol sy’n gwerthu’r arfau oddi wrth y rhai sy’n eu defnyddio”.
‘Cenedl Heddwch’
Dywed Awel Irene, cydlynydd Cymdeithas y Cymod, mai eu nod fel mudiad yw “i Gymru fod yn Genedl Heddwch lle mae symudiadau oddi wrth filitariaeth i economi sy’n cael ei gyrru gan ynni adnewyddol a diwylliant wedi ei adeiladu ar werthoedd di-drais”.
“Nid ydym yn credu bod yna le i Gymru gael rôl mewn systemau sy’n rheoli arfau sy’n ymosod ar bobol ddiniwed Yemen,” meddai.