Gallai creu llu heddlu Cymru gyfan helpu i adennill ymddiriedaeth a meithrin diwylliant gwell mewn plismona yng Nghymru yn dilyn honiadau o hiliaeth, gwreig-gasineb a homoffobia yn Heddlu Gwent, yn ôl Adam Price.

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, gallai disodli’r pedwar llu presennol gyda dull gweithredu Cymru’n un heddlu arwain at “newidiadau cadarnhaol mewn canlyniadau i ddioddefwyr a meithrin diwylliant plismona newydd yn seiliedig ar barch a chynhwysiant”.

Yn yr Alban, lle cafodd holl heddluoedd y wlad eu huno yn 2013, arweiniodd ailstrwythuro tebyg at newid cadarnhaol ar ôl heriau cychwynnol.

‘Pryder mawr’

“Mae’r honiadau a wnaed yn erbyn rhai swyddogion o fewn Heddlu Gwent yn peri pryder mawr,” meddai Adam Price.

“Dylai swyddogion heddlu fod y tu hwnt i waradwydd bob amser ac mae honiadau fel y rhain yn tanseilio gwaith caled y gwasanaethau brys sy’n gweithio ddydd a nos i gadw ein cymunedau’n ddiogel.

“Gall Cymru ddysgu gwersi o lwyddiant uno Heddlu’r Alban yn 2013 er mwyn sicrhau bod adnoddau’n cael eu dosbarthu’n deg ac yn ddoeth rhwng y rhanbarthau, a bod cysylltiadau gyda heddluoedd yn Lloegr yn parhau’n gryf i fynd i’r afael â throseddau trawsffiniol.

“Byddai un heddlu yn caniatáu gwasanaeth mwy effeithlon o ran Adnoddau Dynol, TGCh, caffael a’r holl seilwaith arall sy’n galluogi’r heddlu i wneud eu gwaith o ddydd i ddydd.

“Byddai diwygio radical yn gyfle i adfer yr ymddiriedolaeth sydd wedi’i herydu oherwydd digwyddiadau cywilyddus fel achos diweddar Heddlu Gwent.

“Gallai arwain at newid cadarnhaol mewn canlyniadau i ddioddefwyr a meithrin diwylliant plismona newydd yn seiliedig ar barch a chynhwysiant.

“Mae’r Adolygiad Strategol o Blismona yng Nghymru a Lloegr dan gadeiryddiaeth Syr Michael Barber eisoes wedi argymell uno swyddogaethau cefn swyddfa pob llu.

“Nawr yw’r amser i gymryd camau beiddgar a sicrhau bod yr heddlu yn y sefyllfa gryfaf posib i gadw ein cymunedau’n ddiogel.”