Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ynghyd â’u cydweithwyr yn y Centre de Recherche Bretonne et Celtique (Canolfan Ymchwil Llydewig a Cheltaidd) yn Brest, wedi derbyn cyllid gan CollEx-Persée i weithio ar archif Lydewig bwysig.

Mewn partneriaeth â’u cydweithwyr yn Llydaw, bydd ymchwilwyr yn cyd-destunoli, dadansoddi a digido detholiad o’r testunau, trwy gyfrwng teithiau ymchwil a gweithdai yn Brest ac Aberystwyth.

Nod y prosiect yw cyfoethogi, digido, ac ehangu mynediad i rai o ddogfennau’r casgliadau sydd yn yr archifau Llydewig yng Nghymru, dogfennau sydd yn eu tro yn cysylltu â rhai o’r dogfennau sydd mewn archifdai yn Llydaw ac yn Ffrainc.

Bydd hyn yn rhoi darlun llawnach o’r berthynas rhwng Cymru a Llydaw dros y ddwy ganrif ddiwethaf.

Prosiect “er budd ysgolheigion, y sector treftadaeth a chymunedau”

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan:

“Dyma brosiect ymchwil pwysig iawn sy’n tystio i’r cydweithio strategol cryf rhwng y tri phartner: y CRBC yn Llydaw, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, gyda phob un yn dod â’i arbenigedd unigryw i’r gwaith er budd ysgolheigion, y sector treftadaeth a chymunedau yng Nghymru, Llydaw ac yn rhyngwladol,” meddair’ Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.

Yn ôl Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd y prosiect a’r cydweithio’n “hwyluso ac ehangu mynediad i ddefnyddwyr a chynulleidfaoedd y tu hwnt i’r rhai a fyddai’n medru cyrchu’r cynnwys yn lleol yn y casgliadau, yn ei ffurf bresennol”.

Dywed Ronan Calvez, Cyfarwyddwr y Centre de Recherche Bretonne et Celtique ym Mhrifysgol Brest, fod “ymchwilwyr y CRBC wrth eu boddau gyda’r cyfle hwn i weithio ar archifau Llydewig yng Nghymru”.

“Mae yma ddeunydd cyffrous sy’n sicr yn haeddu sylw, a bydd y gwaith academaidd yn cryfhau cysylltiadau rhwng ymchwilwyr yng Nghymru a Llydaw,” meddai.