Mae HSBC “yn cosbi” mudiadau ac elusennau gwirfoddol lleol, yn ôl Ysgrifennydd Llais Ogwan.
Does dim modd talu arian parod bellach i mewn i gyfrifon canolog yn y banc ym Mangor gan fod y cownter wedi cau.
Mae’r newidiadau’n debygol o fod yn anghyfleus i bobol sydd ddim yn bancio ar-lein.
Mae’n achosi trafferthion i fudiadau lleol oherwydd y costau sydd ynghlwm wrth gyflwyno sieciau i’r banc.
‘Anffodus iawn’
Mae wedi cael cryn effaith ar Lais Ogwan, yn ôl Gareth Llwyd.
“Dwi’n adlewyrchu llawer iawn o fudiadau lleol eraill am ein teimladau am HSBC a thaliadau maen nhw wedi’u cyflwyno ar gyfrifon mudiadau lleol ac elusennau,” meddai.
“Dwi’n meddwl bod penderfyniad diweddar HSBC yr wythnos yma i gau llawer iawn o ganghennau trwy Gymru yn anffodus iawn.
“Mae am ei gwneud hi’n anoddach i unigolion a mudiadau lleol ac elusennau i ddefnyddio cyfrifon banc HSBC.
“Maen nhw’n gorfodi pobol i ddefnyddio cyfrifon ar-lein ac nid pawb sy’n gallu gwneud hynny.
“Rydym yn derbyn sieciau sy’n talu am bapur fel Llais Ogwan neu galendr.
“Rydym hefyd yn cael problem efo tâl aelodaeth ar gyfer cymdeithasau lleol.
“Os mae pobol yn talu efo sieciau, mae o’n costio 60c dwi’n meddwl i brosesu pob siec.
“Efo talu pethau mewn yn uniongyrchol, maen nhw’n disgwyl i fudiadau lleol weithredu’n gwbl annibynnol trwy gyfri banc ar-lein.
“Tydi hynny ddim yn ymarferol i lawer iawn o fudiadau lleol.
“Nid wyf yn yn siŵr pam bod HSBC wedi cyflwyno’r taliadau yma ar gyflwyno sieciau a defnyddio cyfrifon ar gyfer mudiadau lleol gwirfoddol ac elusennau.
“Mae hynny’n cosbi llawer iawn o fudiadau ac elusennau gwirfoddol lleol.
“Dydy o ddim yn ymddangos bod nhw am ddatrys unrhyw beth sy’n achosi problemau i fudiadau lleol.
“Rydym yn ystyried newid banc.”
Yr Eisteddfod Genedlaethol
Dydy un o bwyllgorau lleol yr Eisteddfod Genedlaethol ddim yn gallu talu arian parod i gyfrif canolog yn HSBC ar Stryd Fawr Bangor chwaith.
Mae hyn yn achosi trafferth a chost ychwanegol i drysorydd Pwyllgor Apêl Bangor, Pentir a Phenrhosgarnedd – pwyllgor lleol sy’n codi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.
Ers i’r banc benderfynu newid y gwasanaeth sydd ar gael yn y gangen ar y Stryd Fawr, gan gau’r cownteri traddodiadol, mae’n rhaid i’r trysorydd sy’n byw ym Mangor deithio i Langefni neu Gaernarfon i dalu arian parod i gyfri’r Eisteddfod.
Ymateb HSBC
“Ar adegau mae angen i ni wneud newidiadau i’n rhwydwaith o ganghennau i wneud yn siŵr ei fod yn gynaliadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol,” meddai llefarydd ar ran HSBC.
“Fel rhan o’n buddsoddiad mewn moderneiddio cangen Bangor, y newid mwyaf y mae cwsmeriaid wedi’i weld yw cael gwared ar gownter, a all olygu y gallai bancio gael ei wneud mewn ffordd ychydig yn wahanol.
“Bydd bron yr holl wasanaethau a gynigwyd gan y gangen yn flaenorol yn cael eu cynnal.”
Yn naturiol, er yr anhwylustod mae trysorydd y pwyllgor eisiau pwysleisio ei fod yn barod iawn i dderbyn arian parod tuag at yr apêl yn lleol, ond yn gwaredu at y diffyg gwasanaeth gan HSBC ym Mangor.