Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cwestiynu pam fod Llywodraeth Cymru wedi gwahodd Llysgennad Tsieina i’r Senedd yn gynharach eleni.

Daw hyn yn sgil record hawliau dynol Tsieina a bygythiadau i wledydd tramor, wrth iddyn nhw fygwth ymosod ar Taiwan, mabwysiadu dulliau o ysbïo’n ddiwydiannol, rhedeg cyfleusterau sydd wedi’u cymharu â gwersylloedd crynhoi i ladd Mwslemiaid Uyghur a chynllun sydd wedi’i gymharu â diplomyddiaeth lle mae gwlad yn manteisio ar dalu dyledion gwlad arall er mwyn cryfhau ei gafael ar y wlad honno.

Maen nhw hefyd wedi’u cyhuddo o dorri hawliau dynol ac o ormes yn Hong Kong, a dydyn nhw ddim wedi beirniadu ymosodiadau Rwsia ar Wcráin.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, fe wnaeth Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, alw Tsieina’n “her systemig i’n gwerthoedd a’n buddiannau”.

Yn ôl cwestiwn ysgrifenedig Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, fe wnaeth Zheng Zeguang dderbyn gwahoddiad gan y llywodraeth i ymweld â’r Senedd ar Orffennaf 6.

Fis Medi y llynedd, dri mis yn unig ar ôl i’r Llysgennad ddechrau yn ei swydd, cafodd ei wahardd o San Steffan tra bod sancsiynau Tsieiniaidd ar aelodau seneddol yn eu lle.

Dywed Comisiwn y Senedd nad oedd ganddyn nhw unrhyw ran yn yr ymweliad.

Roedd y Llysgennad dan y lach fis diwethaf, ar ôl dweud nad oedd sail i honiadau bod newyddiadurwr y BBC wedi’i arestio a’i guro wrth ohebu ar actorion Tsieiniaidd yn ymosod ar brotestwyr yn erbyn polisi Covid-sero, ac fe gyhuddodd y newyddiadurwr o “gam-bihafio”.

‘Cadw Tsieina hyd braich’

“Mae pam fod y Llywodraeth Lafur yn credu ei bod hi’n briodol gwahodd Llysgennad Tsieina i Senedd Cymru, yn enwedig heb fod y Senedd ynghlwm, y tu hwnt i’m hamgyffred,” meddai Andrew RT Davies.

“Gallech chi godi papur newydd unrhyw ddiwrnod o’r wythnos a gweld y dylid cadw Tsieina hyd braich i ffwrdd o ystyried y ffordd maen nhw’n trin eu trigolion eu hunain, yn ogystal â’u safiad bygythiol ar berthnasau rhyngwladol, heb sôn am y marciau cwestiwn sydd o hyd am darddiad y coronafeirws, sydd wedi lladd 11,000 o bobol hyd yma yng Nghymru.

“Mae hi hefyd yn arwyddocaol, pan wnaethon ni bwyso am fanylion yr hyn drafododd y Llysgennad gyda gweinidogion Llafur, ein bod ni wedi cael sôn am chwaraeon, diwylliant a’r byd academaidd, ond dim byd am hawliau dynol, sy’n gamgymeriad mae Mark Drakeford fel pe bai’n ei ailadrodd gyda Qatar.

“Byddwn yn annog y Llywodraeth Lafur i feddwl yn fwy gofalus ynghylch y llysgenhadon maen nhw’n ymwneud â nhw ym Mae Caerdydd, yn enwedig o ystyried y diffyg angen iddyn nhw ymgysylltu o ganlyniad i’r ffaith fod polisi tramor yn fater sydd wedi’i gadw’n ôl ar gyfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”

Dim cofnodion

Yn dilyn ymholiad arall gan Andrew RT Davies, fe ddaeth i’r amlwg na fydd cofnodion y cyfarfod yn cael eu cyhoeddi.

“Roedd hwn yn gyfarfod positif lle cafodd cyfleoedd i wella cysylltiadau academaidd a masnach eu trafod, yn ogystal â chyfranogiad mewn chwaraeon, y cynnig o ran diwylliant Cymreig ac effaith Covid-19,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.

“O ganlyniad i sensitifrwydd diplomyddol, does dim cynlluniau i gyhoeddi rhagor o fanylion.”