Fe fydd darlledwyr yn rhoi tystiolaeth i aelodau seneddol yr wythnos nesaf ynghylch dyfodol darlledu yng Nghymru.

Ymhlith y siaradwyr yn sesiwn Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan ddydd Mercher (Rhagfyr 7) fydd Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C, a Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru.

Bydd y pwyllgor hefyd yn clywed gan Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni ITV Cymru.

Dyma’r ail sesiwn o’r fath yn edrych ar ddyfodol darlledu yng Nghymru, a bydd aelodau seneddol yn holi tystion ynghylch y dirwedd ddarlledu bresennol a sut mae newidiadau’n effeithio ar ddarlledu traddodiadol.

Mae disgwyl i’r sesiwn roi sylw i wleidyddiaeth, chwaraeon a chynnwys cyfrwng Cymraeg.

Teledu yw’r dull mwyaf cyffredin o gael mynediad at newyddion o hyd, gyda 74% o oedolion yn dal i gael eu newyddion drwy wylio’r teledu.

Ond yn dynn ar sodlau’r teledu mae gwefannau, apiau a’r radio.

Ond mae ffynonellau sy’n cynnig cynnwys Cymraeg a Saesneg, ill dau, wedi bod yn dioddef yn sgil toriadau dros y blynyddoedd diwethaf.