Mae economi wledig Cymru “ar ei cholled” wrth aros yn y Deyrnas Unedig, yn ôl un o gyfarwyddwyr YesCymru.

Mewn sgwrs banel yn Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ddechrau’r wythnos, bu trafodaeth ar ‘ai annibyniaeth yw’r unig ffordd o sicrhau dyfodol Cymru wledig”.

Roedd y sgwrs, gafodd ei threfnu gan YesCymru, yn bwysig am sawl rheswm, meddai un o gyfarwyddwyr y mudiad, Geraint Thomas.

Cafodd Fforwm Cymru Wledig ei lansio yn y digwyddiad hefyd, a bydd yn cael ei gynnal rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf flwyddyn nesaf.

“Mae yna sawl sector yng Nghymru ble nad ydy’r testun o annibyniaeth wedi cael ei drafod o gwbl,” meddai Geraint Thomas.

“Mae yna rannau helaeth o Gymru wledig lle nad ydy pobol wedi cynnal y sgwrs.

“Roedd y sgwrs yn Llanelwedd yn andros o ddifyr oherwydd roedd gennym ni bobol o draws y sbectrwm gwleidyddol yn rhan o’r drafodaeth.

“Rydym yn gobeithio cynnal digwyddiad arall yn y Sioe Fawr yn yr haf, pan fydd mwy o gig wedi cael ei roi ar yr asgwrn y ddadl dros annibyniaeth.”

“Teimlad bod Cymru wledig yn cael ei dal yn ôl”

Er bod sawl dadl wedi cael eu hawgrymu dros annibyniaeth i Gymru, a fydd y diwydiant amaeth ar ei ennill?

“Mae rhan helaeth o Gymru yn ddibynnol ar amaeth ac economi cynhyrchu bwyd,” meddai Geraint wedyn.

“Mae’r economi wledig yn wahanol iawn i economi drefol yng Nghymru.

“Y teimlad ydy bod yr economi yma yng Nghymru yn dioddef oherwydd penderfyniadau sy’n cael eu gwneud dros nifer fawr o flynyddoedd sydd ddim yn gwarchod buddiannau Cymru.

“Ar y cyfan mae teimlad bod Cymru wledig yn cael ei dal yn ôl gan Lywodraeth San Steffan.

“Beth sy’n bwysig yw meddwl am hyn mewn ffordd eithaf positif a’r cyfleoedd byddai gan Gymru fel gwlad annibynnol i ddatblygu Cymru wledig mewn llawer iawn o ffyrdd.

“Mae galluogi cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru i gael y pris gorau am ei chynnyrch yn un o’r elfennau.

“Hefyd mae llawer iawn o brosesu’r cynnyrch yn digwydd dros y ffin, ac mewn llefydd eraill.

“Bydd angen i Gymru annibynnol newid hynny. Mae angen dal gwerth a gwneud elw.”

Mae angen edrych ar adnoddau naturiol hefyd, meddai Geraint Thomas.

“Mewn llai na deng mlynedd, bydd Cymru yn cynhyrchu mwy o drydan adnewyddadwy na Lloegr a byddan ni’n allforio hyn i Loegr.

“Bydd rhaid i lawer ohono fo ddigwydd ar lefel bychan ar ffermydd, mewn prosiectau hydro a gwynt.

“Wedyn mae yna gyfle yma i symud economi Cymru ymlaen.

“Dydy pawb yn y diwydiant yma ddim wedi cael eu hargyhoeddi. Mae’n bwysig i ni gynnal y sgyrsiau yma.

“Ar y cyfan mae’r arbenigwyr o fewn y diwydiant, y bobol sy’n academyddion, pobol sy’n arweinwyr undebau wedi eu hargyhoeddi mai annibyniaeth ydy’r ffordd ymlaen.”

“Ffermwyr yn deffro”

O ystyried dadleuon Geraint Thomas ynglŷn â pham bod annibyniaeth yn dda i amaethyddiaeth, byddai rhywun yn hanner disgwyl i ffermwyr dueddu i fod yn gefnogwyr brwd i YesCymru.

Ond, dydy hynny yn wir, yn ôl Geraint Thomas.

“Does gennym ni ddim tystiolaeth bod ffermwyr yn fwy cefnogol nag yn llai cefnogol na neb arall” meddai wedyn.

“Mae gennym ni fel mudiad dipyn o ffermwyr yn aelodau.

“Dros y blynyddoedd, yn hanesyddol mae ffermwyr wedi bod yn fwy amheus o annibyniaeth a hyd yn oed o ddatganoli na fysa pobol mewn sectorau eraill.

“Rwy’n meddwl bod ffermwyr yn ddiweddar wedi bod yn deffro i’r ffaith nad ydy eu buddiannau nhw’n cael eu gwarchod yn San Steffan.

“Ar ôl Brexit yr unig gytundeb masnach sydd wedi cael ei gytuno arno ydy’r cytundebau efo Awstralia a Seland Newydd.

“Mae o’n gytundeb gwael iawn. Y gwir ydy bod diwydiannau cig yng Nghymru yn cael eu trin yn wael iawn.

“Mae yna gig rhad iawn yn dod mewn o Awstralia a Seland Newydd. Fe fydd ym mhob un farchnad yng Nghymru cyn bo hir.

“I bob pwrpas, maen nhw’n taflu ffermwyr Cymru dan y bws er mwyn cael trade deals efo gwledydd eraill.

“Mae ffermwyr yn deffro. Mae’r diwydiant ffarmio o’r diwedd yn gweld na yng Nghaerdydd mae eu dyfodol nhw a ddim yn Llundain.”