Mae Adam Price yn mynnu ei fod e a Phlaid Cymru yn cymryd “pob honiad” o gamymddwyn “o ddifrif”.
Daw hyn wedi i honiad o ymosodiad rhyw gael ei wneud yn erbyn uwch aelod o staff, a llai na mis ar ôl i Rhys ab Owen, Aelod o’r Senedd Canol De Cymru, gael ei wahardd gan Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd o ganlyniad i achos difrifol honedig o dorri’r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd.
Mae yna hefyd honiadau bod yna ddiwylliant tocsig o fewn y Blaid.
Mewn ymateb i’r cwynion, mae’r Blaid wedi penodi cwmni adnoddau dynol allanol i ymchwilio i “honiadau o gamymddwyn”, ac fe fydd rhaid disgwyl i glywed beth fydd canlyniad yr ymchwiliad.
Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Iau (Rhagfyr 1), dywedodd Adam Price fod y blaid wedi “gweithredu’n gyflym mewn ymateb i’r adroddiadau yn y cyfryngau”.
“Rydym wedi ymrwymo i’r blaid ymgorffori’r gwerthoedd gorau, ac os yw’r ymarfer hwn yn dangos pethau sydd angen i ni eu gwella neu fynd i’r afael â nhw yna ni fyddwn yn oedi cyn gwneud hynny,” meddai.
“Fel y dywedais yn flaenorol – ac am resymau rydych chi’n eu deall – ni allaf wneud sylw ar unrhyw broses barhaus ar hyn o bryd, ac yn gwbl briodol nid wyf yn gyfarwydd â nhw.
“Ond mae’r Blaid yn cymryd pob honiad o ddifrif fel yr ydw i.
“Rydym fel plaid yn gweithredu ar y sail os a phan fydd tystiolaeth o ddrwgweithredu yn dilyn canlyniad unrhyw broses, bydd y Blaid yn delio’n briodol â’r materion ac yn gwneud hynny yn unol â’i gweithdrefnau disgyblu.”
“Problem go-iawn”
Beth yn union yw’r cyhuddiad yn erbyn yr uwch aelod o staff felly?
Dywedodd cyn-aelod o staff wrth y BBC bod y digwyddiad honedig wedi digwydd tua phedair blynedd yn ôl, pan oedden nhw’n gweithio i’r Blaid.
“Roedd yn teimlo fel lle, ble y dylen i fod yn saff, ond roeddwn i wastad yn teimlo ar bigau’r drain, ychydig fel plentyn yn y gwely yn cael hunllef,” meddai wrth y BBC.
“Roedd yna ddeuoliaeth ryfedd rhwng teimlo nad oeddwn i’n gallu gwneud dim, ond hefyd eisiau cael fy nghynnwys.”
Yn y cyfamser mae person arall wedi dweud bod yr un uwch aelod o staff wedi gwneud iddyn nhw deimlo yn anghyfforddus ar sawl achlysur.
“Ar y pryd fe deimlais nad oedd o’n werth yr ymdrech i wneud cwyn swyddogol yn erbyn ffigwr mor bwerus o fewn y Blaid, yn enwedig gan na fuaswn i’n ymddiried yn arweinyddiaeth y Blaid i ddelio efo hyn yn iawn ac i warchod fy lles i,” meddai.
“Mae nifer o aelodau, staff a gwleidyddion Plaid yn teimlo yn lwcus iawn i fod yn rhan o’r llinach hanesyddol yma sy’n mynd yn ôl mor bell, a ddim eisiau bod yn gyfrifol am niweidio’r Blaid sydd wedi chwarae rôl mor allweddol yn siapio Cymru fodern.
“Wrth gwrs, nid y rheiny sy’n gwneud honiadau sy’n niweidio’r Blaid, yn hytrach mae’n glir mai’r troseddwyr a’r rheiny sy’n eu galluogi yw’r broblem go-iawn.”
“Cynnig cymorth i bob aelod o staff”
Dywedodd cadeirydd y Blaid, Marc Jones, mewn datganiad blaenorol: “Yn naturiol ar y pwynt yma, nid ydym yn gallu rhannu unrhyw wybodaeth am unrhyw achosion unigol neu honiadau, ond dwi eisiau rhoi sicrwydd i holl aelodau Plaid Cymru fy mod yn cymryd y materion a phrosesau hyn o ddifrif.
“Rydym wedi penodi arbenigwyr adnoddau dynol allanol i helpu gyda’n gwaith.
“Rydym yn cynnig cymorth i bob aelod o staff, wrth i ni flaenoriaethu eu lles.
“Rydym yn cynnal arolwg o brofiadau staff fydd yn sail i’n penderfyniadau yn y dyfodol.
“Heb ragfarnu canlyniad unrhyw ymchwiliad sydd ar waith, fe fyddwn mor agored ag y gallwn fod wrth i ni barhau i sicrhau bod ein holl brosesau mewnol yn cael eu dilyn yn drylwyr bob amser.”