Cafodd canolfan ymchwil newydd i edrych ar yr heriau trafnidiaeth sy’n wynebu cymdeithas ei lansio’n swyddogol ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw (Dydd Iau 1 Rhagfyr).

Daw’r Ganolfan Trafnidiaeth a Symudedd ag ymchwilwyr ar draws y brifysgol ynghyd i ystyried atebion i faterion trafnidiaeth lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Y nod yw llywio polisïau ac arferion sy’n effeithio ar y ffordd mae pobol a nwyddau’n cael eu cludo o le i le, ac edrych ar systemau sy’n fwy cynaliadwy, tecach ac yn fwy hygyrch.

Bydd y ganolfan newydd, gafodd ei hagor gan Ddirprwy Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, Lee Waters, yn ystyried cyfraniad technolegau newydd gan gynnwys cerbydau carbon-isel.

Wrth siarad yn y lansiad a gynhaliwyd fel rhan o Ŵyl Ymchwil 2022 y brifysgol, dywedodd Lee Waters ei fod yn hyderus y bydd “gwelliannau sylweddol o ran teithio ar fysiau, beicio a cherdded”.

“Wrth gwrs, nid mater o newid ein hisadeiledd yn unig yw hwn, mae hefyd yn fater o newid ymddygiad a bydd y Ganolfan Ymchwil newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ein helpu i edrych ar ffyrdd o wneud hyn drwy ddarparu atebion arloesol i’r materion trafnidiaeth sy’n effeithio ni i gyd.”

‘Chwyldro technolegol’

Caiff y Ganolfan Trafnidiaeth a Symudedd ei harwain gan yr Athro Charles Musselwhite o Adran Seicoleg y Brifysgol a’r Athro Peter Merriman o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

“Mae trafnidiaeth a symudedd wrth wraidd trafodaethau cymdeithasol ar gynaliadwyedd, newid hinsawdd, gweithgarwch corfforol ac anghydraddoldebau iechyd,” meddai’r Athro Musselwhite.

“Ar adeg o chwyldro technolegol o bwys, gyda’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn buddsoddi arian mawr mewn datrysiadau trafnidiaeth cynaliadwy, nod y ganolfan yw ymchwilio i rai o’r materion allweddol sy’n wynebu gwneuthurwyr polisi trafnidiaeth, gwyddonwyr cymdeithasol a gwyddonwyr ymddygiad heddiw ac yn y dyfodol.”

Gobaith am rwydwaith trenau gorllewinol Cymreig

Lowri Larsen

Byddai’n golygu peidio gorfod teithio trwy Loegr na chymryd oriau i deithio o un lle i’r llall yng Nghymru, yn ôl y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn

Cyhuddo Llywodraeth Cymru o anghofio am y canolbarth

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi codi gofidion am yr oedi wrth sefydlu gwasanaeth trên rhwng Aberystwyth ac Amwythig