Mae mwy na 500 o bobol o Wcráin wedi cael llety mwy hirdymor ar ôl cael cymorth drwy gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, mae hyn yn profi bod Cymru’n Genedl Noddfa.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron i 3,000 o bobol sy’n ffoi rhag ymosodiad Rwsia ar Wcráin, sydd wedi cael eu noddi’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, wedi cyrraedd y wlad.

“Rwy’n falch ein bod wedi gallu croesawu cynifer o bobol yma a bod cynifer o bobl yn byw yn annibynnol yng Nghymru,” meddai Jane Hutt.

“Rwyf hefyd am ddiolch i bawb sydd wedi agor eu cartref i roi noddfa a diogelwch i rywun o Wcráin.”

Y cynllun

Mae pobol sy’n cyrraedd Cymru drwy lwybr uwch-noddwr Llywodraeth Cymru wedi aros mewn canolfannau croeso ac mewn llety cychwynnol, gan gynnwys gwestai, prifysgolion a pharciau gwyliau ledled y wlad.

Mae cymorth cofleidiol wedi bod ar gael yn y llety cychwynnol i helpu pobol i ddod o hyd i waith ac i gofrestru plant mewn ysgolion wrth iddyn nhw ymgartrefu yng Nghymru.

Mae llawer o Wcreiniaid bellach yn symud ymlaen o’r llety cychwynnol hwn i’w cartrefi eu hunain.

Mae hyn yn rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i helpu pobol i ymgartrefu mewn llety mwy parhaol.

Mae polisïau yn eu lle i gefnogi awdurdodau lleol i helpu pobol i fagu gwreiddiau yng Nghymru.

Mae llawer o’r bobol sy’n cyrraedd o Wcráin yn dod o hyd i waith yn eu sectorau dewisol, gan fod ganddyn nhw’r sgiliau a’r arbenigedd sydd eu hangen ar fusnesau yng Nghymru.

Iryna yn cael gwaith fel peiriannydd

Yn gynharach eleni, daeth Iryna i Gymru a threulio amser mewn canolfan groeso.

Ar ôl iddi gael ei gweld yn y cyfryngau yn cwrdd â’r Prif Weinidog, cysylltodd cwmni o Abertawe â hi gan eu bod yn chwilio am rywun gyda’r sgiliau penodol sydd ganddi.

Roedd Power and Water, cwmni trin dŵr gwastraff, wedi cael trafferth dod o hyd i’r ymgeisydd cywir gyda’r profiad angenrheidiol ac, ar ôl ei chyfarfod, mae hi bellach yn gweithio fel peiriannydd prosesau graddedig.

“Mae gan Iryna radd mewn bioleg a pheirianneg gemegol a gradd meistr mewn prosesau electrogeulo – hi oedd yr union ymgeisydd yr oeddem wedi bod yn chwilio amdano,” meddai Harry Cowan, Prif Weithredwr Power and Water.

“Mae ei gwybodaeth a’i hagwedd yn rhyfeddol, a does gennym ddim amheuaeth y bydd yn gwneud cyfraniad mawr i’n busnes.

“Mae hon wir yn sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.

“Mae gennym ymgeisydd eithriadol a fydd yn cyfrannu’n gadarnhaol at ddatblygiad ein cynnyrch a’n busnes ac rydym hefyd yn teimlo ymdeimlad o falchder fel busnes ein bod yn gallu cyfrannu mewn ffordd fach at normaleiddio rywfaint ar fywyd Iryna – ac, yn bwysicach, sicrhau nad yw ei bywyd yn stopio yn ystod y cyfnod ansicr hwn iddi.”

‘Diolch o galon’

“Hoffwn ddiolch o galon am y croeso rydw i wedi ei gael yng Nghymru ac am gael y cyfle i adeiladu bywyd newydd yma,” meddai Iryna, sydd bellach wedi dod o hyd i’w chartref ei hun ac wedi setlo yn ei swydd newydd.

“Alla i ddim meddwl beth fyddai wedi digwydd pe na bawn i wedi cael cefnogaeth pan gyrhaeddais i yma gyntaf.

“Roeddwn i wrth fy modd pan ddaeth Power and Water ata i ac rwy’n ddiolchgar eu bod nhw wedi dangos ffydd ynof fi.”

Yn ôl Jane Hutt, mae Llywodraeth Cymru’n “parhau i ddangos ein cefnogaeth i bobol o Wcráin ac rydym wedi ymrwymo i fod yn Genedl Noddfa”.

“Mae mwy na 500 o bobol bellach wedi symud ymlaen o lety cychwynnol i’w lle eu hunain.

“Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac â’r trydydd sector i helpu pobl i symud ymlaen.

“Mae hyn yn cynnwys cyflwyno mwy o lety tymor hwy i bawb sydd angen cartref drwy ein Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro, rhaglen gwerth £60m.”