Mae ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r Adolygiad Annibynnol o Gymorth Cyfreithiol Troseddol “yn disgyn yn brin iawn o gwrdd â’r her sy’n wynebu’r sector”, yn ôl Cwnsler Cyffredinol Cymru.

Daw sylwadau Mick Antoniw ar ôl i Gymdeithas y Gyfraith ymateb yn chwyrn hefyd i fethiant Llywodraeth San Steffan i gyflwyno’r cynnydd o 15% mewn ffioedd cymorth cyfreithiol troseddol roedd eu hadroddiad eu hunain yn dweud sydd yn angenrheidiol fel isafswm er mwyn cynnal y proffesiwn.

Mae’r gymdeithas yn rhybuddio y gallai arwain at streiciau gan gyfreithwyr, ac na fydd bod yn gyfreithwyr yr amddifyniad yn cynhyrchu digon o incwm.

Ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 30), cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu hymateb llawn i adolygiad annibynnol fis Rhagfyr y llynedd, yn dilyn ymgynghoriad ddechreuodd fis Mawrth y llynedd.

Mae’r Arglwydd Bellamy, awdur yr adroddiad, bellach yn aelod o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn rhinwedd ei rôl yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Adroddiad yr Arglwydd Bellamy

Yn ei adroddiad, cyfeiriodd yr Arglwydd Bellamy at gynnydd o 15% mewn ffioedd cymorth troseddol, sy’n cyfateb i £100m ar gyfer cyfreithwyr a £35m ar gyfer bargyfreithwyr, fel “isafswm angenrheidiol” er mwyn cryfhau’r system yn dilyn “blynyddoedd o esgeulustod”.

Ond wrth gyhoeddi’r manylion terfynol, dim ond 11% o gynnydd sydd wedi’i gyflwyno gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Bydd cyfreithwyr yn derbyn £85m ychwanegol, a bargyfreithwyr yn cael £43m yn rhagor, ynghyd ag £11m ychwanegol ar gyfer ffioedd arbenigwyr “yn y pen draw” bob blwyddyn.

Roedd awgrym y gellid fod wedi cyflwyno grantiau hyfforddi i gefnogi rhagor o hyfforddeion sy’n gweithio i gwmnïau cymorth cyfreithiol troseddol.

Fe wnaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder gynnal ymgynghoriad ar neilltuo £2.5m y flwyddyn ar gyfer hyn, ond bydd yr arian bellach yn mynd at ffioedd cyfreithwyr sy’n gweithio yng ngorsafoedd yr heddlu.

Ond bydd symiau sylweddol uwch nawr yn cael eu neilltuo hefyd, sy’n golygu cynnydd o 30% mewn ffioedd ar gyfer cyfreithwyr sy’n gweithio i’r heddlu.

Ar yr un pryd, fe fydd y cynllun ffioedd hwn yn cael ei adolygu dros y tair blynedd nesaf er mwyn adlewyrchu’r gwariant ar achosion, tra bydd adolygiad tebyg yn 2024 ar gyfer gwaith yn Llys y Goron.

‘Ymateb yn disgyn yn brin iawn o gwrdd â’r her’

“Rydym yn ystyried yn ofalus yr ymateb heddiw gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i’r Adolygiad Annibynnol o Gymorth Cyfreithiol Troseddol, a’r goblygiadau i system gyfiawnder Cymru,” meddai Mick Antoniw.

“Fy argraff gychwynnol yw bod yr ymateb yn disgyn yn brin iawn o gwrdd â’r her sy’n wynebu’r sector.

“Roedd adolygiad yr Arglwydd Bellamy yn glir bod y system mewn argyfwng, a thrwy fethu â derbyn argymhellion ei hadolygiad annibynnol ei hun mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn peryglu gwaethygu system gyfiawnder ddwy haen sydd yn gadael pobol heb y gefnogaeth sydd ei angen arnynt.”