Mae cyfran y bobol sy’n cefnogi annibyniaeth i’r Alban wedi cynyddu yn dilyn dyfarniad gan y Goruchaf Lys ar y mater, yn ôl arolwg barn newydd.

Daw hyn wrth i Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, gyhoeddi ei fod yn bwriadu camu o’r neilltu.

Yn ôl yr ymchwil, dywedodd 49% o ymatebwyr yr Alban y bydden nhw’n pleidleisio ‘Ie’, a dywedodd 45% y bydden nhw’n pleidleisio ‘Na’ pe bai refferendwm yn cael ei gynnal yfory, gyda’r gweddill yn dweud nad ydyn nhw’n gwybod.

Cynhaliodd Strategaethau Redfield & Wilton yr arolwg ar Dachwedd 26-27, ddyddiau ar ôl i Oruchaf Lys y Deyrnas Unedig ddyfarnu na fydd modd cynnal refferendwm annibyniaeth arall heb ganiatâd San Steffan.

Roedd cefnogaeth i annibyniaeth yn uwch na phôl piniwn tebyg ar Fedi 18 y llynedd, pan ddywedodd 44% o’r ymatebwyr y bydden nhw’n pleidleisio ‘Ie’, tra bod 47% wedi dweud y bydden nhw’n pleidleisio ‘Na’.

Canfu’r arolwg barn diweddaraf o 1,000 o bleidleiswyr yr Alban hefyd fod 46% yn dweud y bydden nhw’n cefnogi cynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban yn y flwyddyn nesaf, tra byddai 43% yn gwrthwynebu.

Dywedodd 9% na fydden nhw’n cefnogi nac yn gwrthwynebu’r posibilrwydd, a dywedodd 2% nad oedden nhw’n gwybod.

Mae Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, wedi awgrymu y byddai’r SNP yn barod i sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf ar un polisi unigol, sef ennill annibyniaeth.

‘Dim modd gwadu democratiaeth’

“Mae’r pôl hwn yn dangos cefnogaeth gynyddol i’r hyn a fynegodd pobol yr Alban yn etholiad 2021, maen nhw eisiau dewis i fod yn genedl annibynnol,” meddai Keith Brown, dirprwy arweinydd yr SNP.

“Dangosodd dyfarniad yr wythnos ddiwethaf yn glir nad yw’r Deyrnas Unedig yn undeb wirfoddol.

“Mewn democratiaeth, mae’n iawn i’r bobol gael dweud eu dweud ac ni ddylai’r Torïaid na Llafur allu gwadu hynny.

“Mae’r neges i bleidiau San Steffan nawr yn glir, does dim modd gwadu democratiaeth yn yr Alban.”

Ian Blackford

Wrth gyhoeddi ei benderfyniad i gamu o’r neilltu ar ôl pum mlynedd yn arwain ei blaid yn San Steffan, dywedodd Ian Blackford ei bod hi’n bryd cael “arweinyddiaeth ffres”.

Mae disgwyl iddo ymddiswyddo’n ffurfiol yn ystod cyfarfod blynyddol yr SNP yr wythnos nesaf, wythnosau’n unig ar ôl sibrydion fod nifer yn cynllwynio’n dawel bach i geisio olynydd iddo.

Fe fydd yn parhau’n Aelod Seneddol dros Ross, Skye a Lochaber, yn ogystal â’i rôl ganolog yn ymgyrch annibyniaeth ei blaid.