Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi eu Hadroddiad Blynyddol y Gymraeg, sydd wedi’i gymeradwyo gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg.

O fewn yr Adroddiad Blynyddol, mae gwybodaeth am sut mae’r Cyngor wedi cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg sydd wedi’u gosod gan Gomisiynydd y Gymraeg ym Mesur y Gymraeg (2011).

Mae’r Adroddiad yn egluro’r camau sydd wedi’u cymryd i sicrhau bod y Cyngor yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yn y Gymraeg ac yn gweithredu’n fewnol yn y Gymraeg.

Mae yna fanylion hefyd ynghylch sut mae’r Cyngor yn hybu’r Gymraeg ar draws y sir ac yn ystyried y Gymraeg wrth ddatblygu polisi.

Mae data yn yr adroddiad am sgiliau Cymraeg y gweithlu a’r hyfforddiant Cymraeg mae’r Cyngor yn ei ddarparu.

Mae modd darllen am astudiaethau achos o waith mae’r Cyngor yn falch ohono, sydd yn cynnwys sefydlu ‘Clwb Clebran’, cynllun sy’n rhoi cyfle i staff gynnal eu defnydd anffurfiol o’r Gymraeg yn dilyn y symud cynyddol tuag at weithio o gartref.

‘Sail cadarn i gynllunio ar gyfer y dyfodol’

“Mae’n bleser gen i gyflwyno Adroddiad Blynyddol Y Gymraeg Cyngor Sir Gâr ar gyfer 2021/22,” meddai’r Cynghorydd Glynog Davies.

“Dyma’r chweched blwyddyn o weithredu Safonau’r Iaith Gymraeg a hynny mewn cyfnod o addasu ac ailadeiladu yn dilyn cyfnodau clo ac aflonyddwch y pandemig.

“Parhawyd â’r safonau uchel dros ben wrth ddarparu gwasanaethau ar-lein ac wrth gyfathrebu gyda’n trigolion.

“Cafodd ein gwaith cyfathrebu ei ddarparu yn unol â’r Safonau yn ddi-ffael, a hynny drwy gydol y stormydd a gafwyd, gyda’r rhybuddion tywydd a’r holl wybodaeth am gau ffyrdd yn cael eu darparu yn ddwyieithog ar draws ein platfformau ar y cyfryngau cymdeithasol, yr un pryd yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

“Yn dilyn pandemic COVID-19, rydym yn hynod o falch o’r modd i ni roi’r Gymraeg yn nghanol y gwaith o ailadeiladu gwasanaethau ac ailsefydlu prosiectau adfywio a cheir nifer o enghreifftiau o brosiectau newydd i hyrwyddo’r Gymraeg yn ein gwaith o adfywio’r economi a’r gymuned yn dilyn.

“Mae’r adroddiad trwyadl yma, ynghyd â’r data a ddaw o’r Cyfrifiad yn hwyrach eleni yn rhoi darlun cyflawn i ni o sefyllfa’r Gymraeg yn y sir.

“Fe fydd yn sail cadarn i gynllunio ar gyfer y Gymraeg yn y dyfodol.

“Mae’r Cyngor eisoes wedi dechrau ar y gwaith o gydlynu ymdrechion i gynllunio i’r dyfodol ac i gychwyn ar y gwaith o lunio strategaeth hybu newydd ar gyfer y bum mlynedd nesaf.

“Wrth gyflwyno’r adroddiad hwn, mae’n rhaid i mi gydnabod gwaith di-flino y Cynghorydd Peter Hughes-Griffiths, oedd yn gyfrifol am bortffolio’r Gymraeg, Twristiaeth, Diwylliant a Hamdden ar y Cabinet yn ystod cyfnod gwaith yr adroddiad hwn.

“Edrychaf ymlaen at barhau â’r un dycnwch gyda gwaith darparu, datblygu a hyrwyddo’r Gymraeg a chydweithio gyda Chomisiynydd newydd y Gymraeg, sef Efa Gruffudd Jones yn y cyfnod nesaf.”