Mae Mark Isherwood, Aelod Ceidwadol o’r Senedd yn y gogledd, yn dweud bod teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid o ganlyniad i Covid-19 yn “syfrdan” nad oes yna ymchwiliad penodol i Gymru.
Daeth ei sylwadau yn ystod dadl yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 30), oedd yn ceisio dwyn perswâd ar Lywodraeth Cymru i sefydlu pwyllgor gyda’r bwriad o gynnal ymchwiliad.
Yn ôl y blaid, bwriad y pwyllgor fyddai nodi’r meysydd lle nad yw ymchwiliad y Deyrnas Unedig yn gallu craffu’n benodol ar Gymru ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff eraill i’r pandemig, ac i gynnal eu hymchwiliad eu hunain.
Wrth bwysleisio pam fod angen ymchwiliad yng Nghymru, cyfeiriodd Mark Isherwood at rai o’i etholwyr sydd wedi colli anwyliaid o ganlyniad i’r feirws ac sydd eisiau atebion.
‘Gwrthod ceisiadau’
“Er i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi Ymchwiliad Cyhoeddus Annibynnol i’w hymdriniaeth o’r pandemig Covid-19 yn y Deyrnas Unedig ym mis Mai 2021, ac er i Brif Weinidog yr Alban gyhoeddi tri mis yn ddiweddarach eu bod yn creu ymchwiliad sy’n canolbwyntio ar yr Alban i effaith penderfyniadau Llywodraeth yr Alban ar sut ddaru nhw ymdrin â’r pandemig, dro ar ôl tro mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein ceisiadau am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i’r ymdriniaeth o’r pandemig yng Nghymru,” meddai Mark Isherwood.
“Fel y dywedodd un etholwr wrthyf, ‘Collais i fy nhad i Covid-19 ym mis Tachwedd 2021. Cafodd ei ryddhau o’r ysbyty i’m gofal oddeutu pedair awr cyn marw gartref. Dw i’n syfrdan fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cynnal eu hymchwiliad eu hunain i’r ymdriniaeth o’r pandemig’.”
Fe gyfeiriodd at glaf arall, John Evans, gafodd ei gludo i’r ysbyty yn Wrecsam mewn ambiwlans cyn dal Covid-19 ar ward lle’r oedd claf oedd yn peswch yn barhaus.
Bu farw ym mis Mehefin eleni o ganlyniad i effaith Covid hir ar ei ymennydd, asgwrn ei gefn, ei galon a’i ysgyfaint, yn ogystal â’r anaf i’w goes roedd e’n cael triniaeth ar ei chyfer yn y lle cyntaf.
“Fel nododd ei weddw, Mrs Kathleen Evans, ’mae angen ymchwiliad yng Nghymru o ran pam, pam, pam y bu farw cynifer o bobol yn ysbytai Cymru. Cafodd pobol fel John oedd wedi dilyn canllawiau Mr Drakeford a Llywodraeth Cymru eu methu er iddyn nhw wneud popeth yn iawn’.”
Adroddiad ymchwiliad i ofal diwedd oes
Mae disgwyl i grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal diwedd oes, dan gadeiryddiaeth Mark Isherwood, gyhoeddi adroddiad yn fuan yn dilyn ymchwiliad i brofiadau pobol o’r gofal gawson nhw yn y gymuned yn ystod y pandemig.
Yn ôl Mark Isherwood, clywodd y grŵp dystiolaeth fod gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd yng Nghymru’n fwy tebygol o brofi diffyg meddyginiaeth a staff na gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
“Fis Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai profion Covid yn cael eu hymestyn i’r holl staff a thrigolion mewn cartrefi gofal yn Lloegr,” meddai.
“Yng Nghymru, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn gweld ‘gwerth’ mewn darparu profion i bawb mewn cartrefi gofal ar yr adeg honno.
“Roedd honno’n eiliad dyngedfennol i Mr a Mrs Hough, oedd yn rhedeg cartref nyrsio Gwastad Hall yn Sir y Fflint.
“Nid tan Fai 16 2020 y cyflwynodd Llywodraeth Cymru brofion drwyddi draw ar gyfer staff a thrigolion cartrefi gofal.
“Bum niwrnod yn ddiweddarach, ddaru Mr Hough ladd ei hun.
“Roedd deuddeg o’u trigolion wedi marw yn ystod misoedd cynta’r pandemig.
“Wedi hynny, gofynnais i’r Prif Weinidog sut roedd e’n cyfiawnhau parhau i wrthod galwadau gweithwyr y sector gofal am ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru.”
Dywed fod yr alwad eto am y fath ymchwiliad “yn cynnig cyfle i Lywodraeth Cymru ddangos nad ydyn nhw’n ofni bod yn atebol i bobol yng Nghymru”.