Mae tri o bobol wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl i gyrff dau fabi gael eu canfod mewn eiddo yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn (Tachwedd 26).

Cafodd dau ddyn, sy’n 37 a 47 oed, a dynes 29 oed eu harestio ar amheuaeth o gelu genedigaeth plentyn, ac maen nhw wedi’u rhyddhau wrth i’r ymchwiliad barhau.

Mae’r heddlu wedi diolch i drigolion lleol a thystion am eu hymateb i’r “digwyddiad trawmatig” wrth iddyn nhw gynnal “ymchwiliad cymhleth a sensitif”.

Maen nhw’n dweud y bydd presenoldeb uchel ymhlith yr heddlu yn yr ardal yn y dyddiau nesaf, ac yn annog unrhyw un sydd â phryderon i siarad â’u heddlu cymunedol.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.