Mae ymgyrchwyr iaith yn galw ar y Prif Weinidog i sicrhau bod pob plentyn fydd yn cael addysg yng Nghymru yn y dyfodol yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg.
Dywed Cymdeithas yr Iaith fod angen gosod y sylfaen nawr i ddechrau gweddnewid y gyfundrefn addysg, fel bod pob ysgol yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050.
Mae’r Llywodraeth wrthi’n paratoi ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg, ac yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i sicrhau y bydd holl bobol ifanc y dyfodol yn gadael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg.
Mae’r mudiad yn dweud mai creu un gyfundrefn addysg i Gymru gyfan sydd ei angen, lle mae pawb o bob cefndir yn dysgu drwy’r Gymraeg.
Mewn llythyr at Mark Drakeford, mae Robat Idris, cadeirydd cenedlaethol newydd Cymdeithas yr Iaith, yn sôn am yr angerdd sydd i’w deimlo dros yr iaith yn dilyn ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd, yn ogystal â’r teimlad sy’n gyffredin ymhlith llawer o bobol Cymru bod y gyfundrefn addysg bresennol wedi eu methu drwy beidio sicrhau eu bod yn gadael yr ysgol yn abl ac yn hyderus yn eu Cymraeg.
‘Beth fydd gwaddol Cwpan y Byd o ran y Gymraeg?
“Er bod ymgyrch tîm Cymru yng Nghwpan y Byd wedi dod i ben, bydd y cyfnod hwn wedi cael effaith hirdymor ar y genedl mewn sawl ffordd,” meddai Robat Idris yn ei lythyr.
“Ond beth fydd gwaddol Cwpan y Byd o ran y Gymraeg?
“Mae gan y Llywodraeth o dan eich arweiniad gyfle a chyfrifoldeb i sicrhau drwy’r Ddeddf Addysg Gymraeg mai gwaddol Cwpan y Byd i genedlaethau’r dyfodol fydd rhoi’r Gymraeg ar dafod pob person ifanc drwy osod pob ysgol yn y wlad ar y daith tuag at addysg cyfrwng Cymraeg.
“Dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gywiro’r anghyfiawnder cymdeithasol presennol drwy osod nod hirdymor a fydd yn cael effaith bellgyrhaeddol o ran hyder cenedlaethau’r dyfodol i ddefnyddio’r Gymraeg gan sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl wrth i’r iaith ffynnu.”
Deddf Addysg Gymraeg
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llunio drafft o Ddeddf Addysg Gymraeg ei hun, gafodd ei lansio dros yr haf.
Mae’r Ddeddf yn gosod nod clir y bydd y gyfundrefn addysg gyfan yn un cyfrwng Cymraeg erbyn 2050, gyda’r bwriad bod pob ysgol yn symud yn raddol ar hyd llwybr i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg dros y chwarter canrif nesaf.
Mae’r Ddeddf gyfan i’w gweld ar wefan Cymdeithas yr Iaith.