Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod penderfyniad aelodau undeb GMB sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Ambiwlans i gynnal streic yn destun “siom”.

Maen nhw wedi penderfynu streicio tros gyflogau ac amodau gwaith.

Ymhlith y rhai fydd yn streicio mae parafeddygon, cynorthwywyr gofal brys a gweithwyr sy’n ateb galwadau brys.

Mae’r streic yn cael ei chynnal yng Nghymru ac mewn wyth ymddiriedolaeth arall ledled y Deyrnas Unedig.

‘Anghyfiawnder’

Yn ôl Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, streic yw hon sy’n cael ei chynnal ar ôl i weithwyr wrthod cynnig tâl gan Lywodraeth Cymru.

“Mae hi’n destun siom gweld rhai undebau’n pleidleisio i streicio, sy’n golygu y gwelwn ni staff y Gwasanaeth Ambiwlans yn rhoi’r gorau i weithio yn ystod y gaeaf,” meddai.

“Ond peidied neb ag amau, yng Nghymru, mai cynnig tâl y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd gafodd ei wrthod – mae unrhyw un, gan gynnwys undebau, sy’n ceisio beio rhywun arall yn gwneud anghyfiawnder â’r cyhoedd a’r gweithwyr sy’n streicio.

“Mae nyrsys eisoes wedi pleidleisio dros streicio ym mhob bwrdd iechyd ond un yng Nghymru, ac mae’n syfrdanol fod y Gweinidog Iechyd Llafur dal heb gyfarfod â nhw i drafod – gobeithio na fydd yr un yn wir am weithwyr ambiwlans.

“Mae angen gweithredu ar gleifion a staff gan y Llywodraeth Lafur er mwyn cael datrysiad cyflym a theg i’r sefyllfa hon, ac rwy’n eu hannog nhw i eistedd o amgylch y bwrdd trafod nawr.”

Y streic “fwyaf pryderus”

Yn ôl Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, hon yw’r streic “fwyaf pryderus” bosib.

“O ran gweithredu’n ddiwydiannol, efallai mai hon yw’r streic fwyaf pryderus yn nhermau’r perygl posib i fywydau, ond pwy all roi’r bai ar ein staff ambiwlans sydd dan bwysau, o ystyried yr amodau maen nhw’n eu hwynebu a’u gofynion tâl rhesymol?” meddai.

“Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru drafod â’r undebau er mwyn dod i gyfaddawd teg a sicrhau bod gwasanaethau sy’n achub bywydau’n gweithredu i’w capasiti llawn yn ystod y gaeaf.”

‘Ar eu gliniau’

Yn ôl undeb GMB, mae staff y Gwasanaeth Ambiwlans “fel gweithwyr eraill y Gwasanaeth Iechyd, ar eu gliniau”.

“Yn wangalon ac wedi’u sathru, maen nhw wedi wynebu 12 mlynedd o doriadau Ceidwadol i’r gwasanaeth a’u pecynnau tâl, wedi brwydro ar reng flaen pandemig byd-eang a bellach yn wynebu’r argyfwng costau byw gwaethaf ers cenhedlaeth,” meddai Rachel Harrison, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb.

“Does neb yn y Gwasanaeth Iechyd yn streicio ar chwarae bach – mae heddiw’n dangos pa mor ddespret ydyn nhw.

“Mae a wnelo hyn gymaint â lefelau staffio anniogel a diogelwch cleifion â thâl.

“Mae traean o weithwyr ambiwlans y GMB yn credu bod oedi maen nhw wedi bod yn ei ganol wedi arwain at farwolaeth claf.

“Mae’n rhaid i rywbeth newid neu bydd y gwasanaeth fel yr ydym yn ei adnabod yn dymchwel.”