Beth allwn ni ddisgwyl gan Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru? Huw Bebb sydd wedi bod yn holi’r dyn sy’n ein cynrychioli yng nghabinet Llywodraeth Prydain…

Mae hi wedi bod yn flwyddyn anghyffredin yn San Steffan, a dweud y lleiaf.

Rydan ni bellach ar ein trydydd Prif Weinidog, wedi cael dim llai na phedwar Canghellor, a thri Ysgrifennydd Iechyd.