Rydym wedi chwalu’r wal dalu ar yr erthygl hon, i bawb gael blas ar arlwy’r cylchgrawn…
Mae athro o Gwm Rhondda wedi sgrifennu llyfr am dwrnament pêl-droed ddigwyddodd ar adeg gwaedlud a dychrynllyd yn hanes yr Ariannin…
Diolch i Gwpan y Byd Qatar mae’r gair ‘sportswashing’ wedi dod yn fwyfwy amlwg.
Dyma derm ar gyfer gwleidyddion yn ceisio defnyddio chwaraeon i wella’u delwedd nhw a’r gwledydd maen nhw’n rheoli.
Yn ôl y beirniaid, mae rheolwyr Qatar yn defnyddio Cwpan y Byd i wyngalchu record wael y wlad o ran trin merched a hoywon a gweithwyr fu’n adeiladu’r stadiymau pêl-droed yno, gan wneud y gwaith caled hwnnw dan haul crasboeth am ddoler yr awr.
Does dim byd yn newydd am ddefnyddio twrnament chwaraeon mawr i geisio cuddio gweithredoedd gwarthus.
Hwyrach mai’r enghraifft enwocaf oedd Gemau Olympaidd 1936, pan wnaeth Adolf Hitler a’r Natsïaid wadd y byd i Berlin i geisio dangos mai nhw oedd y master race.
Pennod dywyll arall yn hanes y berthynas rhwng chwaraeon a gwleidyddion oedd Cwpan y Byd 1978 yn yr Ariannin.
Ar y pryd roedd y fyddin yn rhedeg y wlad, ac yn lladd ac arteithio unrhyw un oedd yn eu gwrthwynebu.
Gobaith y Cadfridog Jorge Videla a’i junta milwrol oedd mewn grym ar y pryd, oedd defnyddio Cwpan y Byd i wyngalchu sefyllfa waedlud y wlad.
A 44 mlynedd ers cynnal y twrnament, mae athro Saesneg 36 oed o Dreorci yng Nghwm Rhondda wedi cyhoeddi llyfr am Gwpan y Byd ’78 – Blood on the crossbar.
Yn ogystal â siarad gyda Chymry ac Archentwyr oedd yno ar y pryd, mae’r awdur wedi byw yn y wlad.
Yn 25 oed bu Rhys Richards draw yn yr Ariannin yn dysgu Saesneg fel ail iaith i’r brodorion, a dyna pryd y cafodd ei ddiddordeb yn y wlad honno ei danio.
Er mai’r Ariannin wnaeth ennill Cwpan y Byd yn 1978, mae Rhys yn dweud mai ychydig iawn o sôn sydd wedi bod am y twrnament a’r tîm hwnnw.
O gymharu, mae tîm yr Ariannin wnaeth ennill Cwpan y Byd 1986 yn Mecsico yn cael eu cofio fel un o’r goreuon erioed, yn bennaf oherwydd athrylith eu capten, Diego Maradona.
Ond roedd Rhys yn awyddus i ddysgu mwy am y fuddugoliaeth a’r amodau yn ’78, ar ôl byw ger dinas Mendoza am chwe mis tra yn athro Saesneg.
“Ers hynny mae gen i ddiddordeb anferth yn yr Ariannin,” meddai Rhys, “ac mae hi wedi cymryd blynyddoedd iddyn nhw ddod i dermau gyda beth ddigwyddodd yn y wlad.
“Ac mae elfen o hwnna gyda’r pêl-droed hefyd.
“Oherwydd mae’r tîm wnaeth ennill yn ’78 yn cael eu cysylltu gyda’r fyddin, ac mae popeth sy’n ymwneud â’r fyddin yn negyddol.
“Felly am flynyddoedd doedd pobol ddim yn rhoi chwarae teg i’r tîm, ddim yn rhoi’r clod efallai roedden nhw yn haeddu.
“Roedd pobol yn meddwl: ‘Rydach chi wedi eich cysylltu gyda’r fyddin, ac maen nhw wedi prynu’r teitl yma, a dydych chi ddim yn haeddu fe’.
“Mae pobol y wlad yn ffeindio fe’n rhywbeth anodd i ddelio gyda, fi’n credu.”
Fe enillodd yr Ariannin 3-1 yn y ffeinal, ar ôl chwarae amser ychwanegol yn Buenos Aires yn erbyn yr Iseldiroedd.
Ac yn ystod y cyfnod clo, fe ffeindiodd Rhys ei hun yn gwylio’r ffwtej o ffeinal ’78 a sawl rhaglen ddogfen am y twrnament gafodd ei gynnal dan gwmwl tywyll.
“Roeddwn i yn chwilio am lyfr ar y Cwpan y Byd yma, ac roeddwn i yn gwybod – oherwydd y llywodraeth oedd yn yr Ariannin ar y pryd – ei bod hi yn gystadleuaeth ddadleuol iawn.
“Ac roeddwn i yn meddwl: ‘Mae gorfod bod rhyw lyfr am hwn’.
“Ond doedd dim byd, yn Saesneg o leiaf, wedi ei sgrifennu. Felly dechreues i ymchwilio…”
Y cysylltiadau Cymreig
Mae Blood on the crossbar yn lafur cariad sydd yn 80,000 o eiriau – ac mae’r awdur wedi gwneud mwy na jesd darllen am ei bwnc.
“Roedd e’n bwysig i fi siarad gyda phobl oedd wedi bod yno,” meddai Rhys gan egluro ei fod wedi cyfweld Fernando Spannaus, darlledwr chwaraeon sy’n byw yng Nghaerdydd ond yn wreiddiol o’r Ariannin.
“Roedd e’n rhoi lot o rifau ffôn i fi o bobol oedd yna ar y pryd…
“Gan nad ydw i yn dod o’r Ariannin, ac heb gael fy ngeni ar y pryd, roedd e’n bwysig i siarad gyda shwt gymaint o bobl oedd yn cael profiad ohono fe.”
Mae Rhys Richards wedi siarad gyda sawl Cymro am Gwpan y Byd ’78 hefyd, gan gynnwys y darlledwr adnabyddus Russell Isaac.
“Roedd e yng nghamp yr Alban, mas yn [ninas] Cordoba gyda nhw, ac roedd e’n rhannu cwpwl o straeon o beth oedd yn digwydd mas yna.”
A gyda Rhys yn byw yn Nhreorci, roedd yn RHAID iddo holi un o feibion enwoca’r dref a dyfarnwr mwyaf dadleuol Cwpan y Byd ‘78.
Clive Thomas oedd yn reffio’r ornest rhwng Brazil a Sweden, a daeth yn fyd enwog wedi iddo chwythu’r chwiban olaf eiliad neu ddwy cyn i Brasil sgorio beth fyddai wedi bod y gôl i ennill y gêm.
Fe gafodd Clive druan ei ddiawlio i’r cymylau ac ni fyddai’r Cymro yn cael ei ddewis i ddyfarnu gêm Gwpan y Byd fyth eto, er ei fod yn un o ddyfarnwyr gorau Ewrop yn y 1970au.
“Mae Clive mor strict,” meddai Rhys.
“Yn Saesneg maen nhw yn galw fe yn ‘The Book’ achos bod e mor llythrennol gyda sut mae e’n dyfarnu gemau.”
Mae Blood on the crossbar – The Dictatorship’s World Cup wedi ei gyhoeddi gan Pitch Publishing