Mae sgîl-effeithiau hen duedd erchyll o ddefnyddio’r Beibl i gyfiawnhau caethwasiaeth yn dal i fodoli yn yr Unol Daleithiau hyd heddiw…

Erbyn dechrau’r 19eg ganrif, roedd Cymry yn ymfudo i America, nifer ohonyn nhw’n denantiaid ffermydd a oedd yn gorfod talu rhenti uchel yn eu mamwlad ac yn dyheu am fywyd gwell.

Roedd yna waith mawr yn eu haros dros fôr yr Iwerydd, ond o leiaf roedd eu traed yn rhydd – yn wahanol i gaethion Affricanaidd America.