Annwyl Marlyn,
Mae fy ngŵr wrth ei fodd gyda’r Nadolig – mae o’n caru gosod trimings ar y tŷ efo goleuadau ym mhob twll a chornel, addurno’r goeden a’r dathlu. Dydy o ddim yn gallu deall pam fy mod i ddim yn mopio’r un fath efo’r adeg “hudolus” yma o’r flwyddyn. Dw i ddim wastad wedi bod fel hyn ond dros yr 20 mlynedd a mwy diwethaf mae’r Nadolig wedi golygu lot o waith ychwanegol i fi. Pan oedd y plant yn fach a fy ngŵr yn gweithio i ffwrdd y rhan fwya’ o’r amser (mae o bellach wedi ymddeol), fi oedd yn prynu’r anrhegion i gyd i’r plant a’r teulu estynedig, yn eu lapio nhw tan yr oriau mân ar Noswyl Nadolig tra bod o’n cysgu’n braf, ac yna’n codi am chwech y bore i roi’r twrci yn y popty a phlicio tatws. Yn y dyddiau hynny mi fyddai fy rhieni a rhieni’r gŵr yn dod draw aton ni am ginio Nadolig. Mae fy ngŵr wastad wedi mwynhau cymdeithasu a diddanu’r gwesteion tra mod i’n gwneud y gwaith caib a rhaw yn y gegin. Gan fod y plant bellach wedi gadael y nyth a’n rhieni ddim gyda ni bellach, dw i wedi bod yn ysu am gael Dolig tawel, diffwdan. Ond mae fy ngŵr wedi rhoi gwybod i fi rŵan ei fod o wedi gwahodd cymdogion aton ni ar ddydd Nadolig am eu bod nhw’n cael gwneud gwaith ar eu tŷ, ac wedi dweud wrth y plant bod croeso iddyn nhw ddod draw gyda’u partneriaid. Mae’n golygu bydd 12 ohonon ni rownd y bwrdd dydd Dolig. Dw i ddim eisiau bod yn anghwrtais a dweud wrthyn nhw eu bod nhw ddim yn cael dod, felly beth ddylwn i wneud?
Dim pawb sy’n cytuno efo Andy Williams a’i gȃn ‘It’s The Most Wonderful Time Of The Year’. Dim pawb sy’n mynd i hwyl yr ŵyl ac yn mwynhau’r miri a’r rhialtwch. Mae’r ŵyl, yn ddi-os, yn golygu lot fwy o waith a straen i lawer iawn ohonom ni, (ac os ga’i fod yn secsist am funud), yn enwedig i ni ferched. Ni sydd fel arfer yn prynu a lapio’r anrhegion heb sôn am y siopa bwyd a’r coginio ac ati. A chithau wedi gwneud hynny’n ddi-gŵyn am flynyddoedd lawer, cydymdeimlaf yn llwyr efo chi eich bod chi bellach awydd diwrnod Dolig tawel a diffwdan.
Beth sydd yn fy synnu’n fawr ydi bod eich gŵr wedi gwahodd eich cymdogion draw heb hyd yn oed drafod nag ymgynghori efo chi. Ac, ar ben hynny, nid dau neu dri gwestai mae o wedi’i wahodd draw, ond deg o bobl! Tasa fy ngŵr i wedi gwneud hynny mi fysa fo yn y dog hows am ddyddiau os nad mwy!
Ga’i ofyn i chi, ydi eich gŵr yn dueddol o wneud penderfyniadau byrbwyll eraill heb ymgynghori efo chi yn gyntaf? Fy ymateb cynta’ i’ch dilema ydi eich bod chi yn dweud wrth eich gŵr y ceith o baratoi a choginio’r cinio ei hun!
Ond i fod o ddifri am funud, y peth cyntaf fyswn i yn ei wneud bysa datgan yn glir wrth eich gŵr sut rydych chi’n teimlo. Dywedwch wrtho nad ydi o wedi ystyried eich teimladau chi o gwbl ynglŷn â hyn. Ydi’ch gŵr yn ymwybodol eich bod chi’n ysu i gael Nadolig gwahanol eleni? Efallai ei fod o wedi cymryd yn ganiataol, gan eich bod chi wedi arfer efo llond tŷ diwrnod Dolig, yr un fyddai’r drefn eleni. Dyna pam mae’n bwysig siarad efo’ch gilydd.
Dwi’n meddwl fod ganddoch chi dri dewis mewn gwirionedd.
Un opsiwn – a dwi’n gwybod y byddai hwn yn un anodd i chi – fyddai ymddiheuro’n llaes i’ch cymdogion a dweud rhywbeth fel, oherwydd amgylchiadau neu beth bynnag, (does dim rhaid i chi ymhelaethu nac esbonio beth yn union ydi’r amgylchiadau rheini), na allwch chi, yn anffodus, eu gwahodd nhw draw. Yn hytrach, cynigiwch iddyn nhw ddod draw am buffet Dydd San Steffan ac i bawb ddod a phlatiad o rywbeth efo nhw. Drwy wneud hynny rydych chi’n cadw pawb yn hapus. Rydych chi yn cael eich diwrnod tawel, diffwdan ac mae eich gŵr yntau, yn cael ei hwyl yr ŵyl. Wedi dweud hynny, mi wn i o brofiad llynedd, oherwydd Covid, sut beth ydi cael Dolig tawel efo un ymhob pen i’r bwrdd a rhywun wedi arfer cael llond tŷ. Efallai bod y syniad yn apelio atoch chi ond gwyliwch fod y realiti yn dipyn gwahanol.
Dewis arall ydi dweud wrth y gwesteion fod croeso mawr iddyn nhw ddod draw ond tybed a fyddai modd iddyn nhw helpu a chyfrannu tuag at y cinio? Rhannu’r gwaith fel bod pawb yn tynnu ei bwysau. Gall un ddod a’r cwrs cyntaf, rhywun arall ddod a’r pwdin ac yn y blaen. Byddai hynny’n bendant yn tynnu rywfaint o’r straen a’r baich oddi arnoch chi. Os ydach chi’n penderfynu gwneud hyn mynnwch – a dwi’n pwysleisio hyn – fod eich gŵr yn tynnu ei bwysau hefyd gan mai y fo sy’n gyfrifol am eu gwahodd nhw draw yn y lle cyntaf.
Dewis arall posib ydi i chi gynnig, yn hytrach na bod pawb yn dod draw i’ch tŷ chi, beth am i chi gyd fynd allan am ginio Dolig i westy? Byddai hynny’n tynnu’r straen a’r pwysau’n gyfan gwbl oddi arnoch chi wedyn. Rhywun arall yn coginio’r bwyd ac yn golchi’r llestri. Ar ôl y cinio gallwch chi wedyn wneud eich esgusodion a dychwelyd yn ôl i lonyddwch a thawelwch eich cartref.
Beth bynnag rydach chi’n penderfynu ei wneud, mae un peth yn sicr, gofalwch nad ydi’ch gŵr yn gwneud rhywbeth fel hyn eto heb drafod efo chi yn gyntaf.
Nadolig Llawen i chi!